Does “dim esgus” tros oedi cyn gwydroi’r gwaharddiad ar ddefnyddio’r Wyddeleg a Sgots Wlster yn y llysoedd, yn ôl Conradh na Gaeilge, y mudiad sy’n hybu’r defnydd o’r Wyddeleg, wrth gymharu’r sefyllfa â’r Ddeddf Iaith Gymraeg.
Yn ôl y gyfraith, Saesneg yw unig iaith y llysoedd ers bron i 300 mlynedd ac mae’n “annerbyniol” bod yna oedi o hyd cyn newid y gyfraith, yn ôl Dr Pádraig Ó Tiarnaigh o’r mudiad.
Gall unrhyw un sy’n torri’r rheol iaith wynebu dirwy o £20, yn ôl y Belfast Telegraph.
Ond mae disgwyl i’r ddeddf gael ei dileu yn dilyn pasio deddf arall sy’n ymwneud â iaith a hunaniaeth ddiwylliannol.
Yn ôl Steve Baker, Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon, mae dileu’r Ddeddf Gweinyddu Cyfiawnder yn un o nifer o gamau i’w cymryd er mwyn sicrhau bod gan drigolion Gogledd Iwerddon yr hawli i “ddewis, cynnal a datblygu eu hunaniaeth genedlaethol a diwylliannol”.
‘Annerbyniol’
“Cafodd cytundeb Degawd Newydd, Dull Newydd ei gyflwyno gan lywodraethau Prydain ac Iwerddon fel sail ar gyfer ailsefydlu sefydliadau gwleidyddol yma dros bedair blynedd yn ôl,” meddai Dr Pádraig Ó Tiarnaigh.
“Daeth y ddeddfwriaeth Wyddeleg, oedd yn fater allweddol ar y pryd, yn gonglfaen y pecyn gwleidyddol hwnnw, a chafodd ei gyflwyno maes o law gan Lywodraeth Prydain yn 2022.
“Ers hynny, mae gorchmynion cychwyn wedi’u cyflwyno gan yr Ysgrifennydd Gwladol er mwyn galluogi sefydlu Swyddfa Comisiynydd yr Iaith Wyddeleg, ond hyd yn hyn dydy’r gorchymyn hwnnw ddim wedi’i gyflwyno, ac rydym yn aros yn eiddgar am benodi’r comisiynydd.
“Yn anffodus, mae yna aros am weithredu gan Lywodraeth Prydain ar adrannau craidd eraill o Ddeddf Hunaniaeth ac Iaith (Gogledd Iwerddon) 2022.
“Mae’r adrannau’n ymwneud â diddymu Deddf 1737 ar y gweill o hyd.
“Mae’r ddeddf honno, sydd bron i 300 mlwydd oed, yn parhau i wahardd siaradwyr Gwyddeleg rhag defnyddio’r Wyddeleg mewn achosion cyfreithiol yn y llys.
“Cafodd deddfwriaeth debyg ei diddymu yng Nghymru a’r Alban ar gyfer eu hieithoedd brodorol hwythau ddegawdau yn ôl.
“Dyma ddeddfwriaeth mae’n rhaid ei diddymu gan San Steffan ac fel nad oes digon o esgus gan Swyddfa Gogledd Iwerddon mai mater i Stormont yw ei ddileu.
“25 mlynedd ers Cytundeb Gwener y Groglith, a phedair blynedd ers y cytundeb gwleidyddol oedd yn arwydd o oes newydd i hawliau ieithyddol yma.
“Mae’n annerbyniol fod Llywodraeth Prydain yn dal i lusgo’u traed cyn cyflwyno’r ddeddfwriaeth hon.”