Mae angen pecyn brys i achub meddygfeydd teulu, yn ôl BMA Cymru.

Yn ôl eu hymgyrch, Save Our Surgeries, maen nhw am weld Llywodraeth Cymru’n ymrwymo i ariannu meddygfeydd teulu’n “iawn”, buddsoddi yn y gweithlu, creu strategaeth i’r gweithlu a gwella llesiant staff.

Rhwng 2013 a 2022, fe wnaeth nifer y cleifion sydd wedi’u cofrestru â meddygfeydd dros Gymru gynyddu 2.9%, tra bo nifer y meddygfeydd wedi gostwng 18%.

Mae ymchwil Save Our Surgeries yn dangos bod 2,324 o feddygon teulu yng Nghymru, a bod dros eu chwarter nhw (26.6%) yn bwriadu gadael y maes yn y dyfodol agos.

Llwyth gwaith “anghynaladwy”

Roedd cymdeithas y BMA wedi bod yn trafod gyda Llywodraeth Cymru, ond daeth y trafodaethau rhwng y Llywodraeth, Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru a Phwyllgor Meddygfeydd Teulu BMA Cymru i ben heb ddatrysiad ym mis Hydref.

“Doedd y setliad ariannol oedd yn cael ei gynnig gan Lywodraeth Cymru ddim yn cyd-fynd â’n disgwyliadau rhesymol am gynnydd i werth y cytundebau a fyddai’n helpu i ddadwneud effaith ddinistriol chwyddiant cynyddol ar gostau meddygfeydd a chostau staff,” meddai Dr Gareth Oelmann, cadeirydd Pwyllgor Meddygfeydd Teulu BMA Cymru.

“Heb gynnig ariannol ymarferol na chynnig i liniaru’r sefyllfa, byddai ymestyn y trafodaethau yn ofer.

“Oni bai fod yna gynigion newydd a sylweddol gan Lywodraeth Cymru, dydyn ni ddim yn rhagweld unrhyw drafodaethau pellach ar gytundeb y flwyddyn hon.”

Mae arolwg gan Save Our Surgeries yn dangos bod gan feddygon teulu ledled Cymru lwyth gwaith “anghynaladwy”, a bod 80% ohonyn nhw’n teimlo fod hynny’n cael effaith negyddol ar eu cleifion.

Mae’n dangos hefyd hefyd fod morâl yn isel, a bod costau rhedeg meddygfeydd wedi cynyddu’n sylweddol – mae costau staffio wedi codi rhwng 10-16% mewn blwyddyn, a chostau ynni wedi cynyddu 41.2% rhwng 2021 a 2022.

Mae eu galwadau’n cynnwys cynyddu canran cyllideb Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru sy’n mynd tuag at feddygfeydd teulu i 8.7% dros dair blynedd, gyda’r nod o’i chynyddu i 11% yn y bum mlynedd nesaf.

‘Siomedig’

Un sy’n cefnogi’r galwadau ydy Russell George, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymraeg ac Aelod o’r Senedd dros Sir Drefaldwyn.

“Dydy Gweinidog Iechyd Llywodraeth Cymru heb gynnig yr un cyflog i ddoctoriaid â chynnig Llywodraeth y Deyrnas Unedig, sydd o leiaf 20% yn uwch nag ar gyfer y rhan fwyaf o staff y maes iechyd,” meddai.

“Mae hyn yn fwy siomedig wrth gydnabod fod Cymru wedi bod yn derbyn £1.20 am bob £1 sy’n cael ei gwario ar iechyd yn Lloegr ers tro.

“Dw i’n cefnogi cynllun pedwar pwynt BMA Cymru, mae ymgyrch Save Our Surgeries yn dangos effaith tanfuddsoddi hirdymor mewn meddygfeydd teulu yn glir a’i effaith ar lwyth gwaith, llesiant a’r gweithlu.

“Rhaid i Lywodraeth Cymru drafod eto ac ymrwymo i becynnau brys sy’n cefnogi meddygon teulu a’u cleifion gyda’r lefel iawn o gefnogaeth neu byddan ni’n gweld yr argyfwng presennol yn gwaethygu yng Nghymru, heb ddiwedd mewn golwg.”

‘Galw dal i ddod’

Wrth ymateb yn y Senedd, dywedodd Eluned Morgan, Gweinidog Iechyd Cymru, fod yna “her ariannu wirioneddol” ar hyn o bryd, a’i bod hi am fod yn anodd ofnadwy dod o hyd i arian ychwanegol i feddygfeydd teulu.

Dywedodd hefyd eu bod nhw’n ceisio cynyddu eu cefnogaeth o amgylch meddygfeydd teulu, a’u bod nhw wedi cynyddu nifer y meddygfeydd teulu gan 3.8%.

“Mae’r nifer yn cynyddu yng Nghymru, ond mae’r galw dal i ddod, a dyna pam rydyn ni’n trio sicrhau bod dewisiadau eraill i bobol,” meddai.

“Maen nhw’n gallu mynd i fferyllfeydd, at y gwasanaeth 111. Ac maen nhw’n eu defnyddio nhw, sy’n wych – mae’r gwasanaeth 111 yn cael ei ddefnyddio gan tua 70,000 o bobol y mis.

“Mae’n tynnu’r pwysau oddi ar wasanaethau meddygfeydd teulu.

“Nawr, dw i, fel rhywun sy’n briod â meddyg teulu, yn cydnabod fod yna lot o bwysau yn y system ar y funud, ond rydyn ni angen gwneud siŵr ein bod ni’n trio adeiladu’r gefnogaeth yna, eu cael nhw i weithio mewn clystyrau, gwneud siŵr fod y system yn fwy gwydn.”

Mewn byd delfrydol, byddai mwy o arian yn mynd tuag at atal problemau iechyd a gofal sylfaenol yn hytrach na gofal eilaidd, yn ôl Eluned Morgan.

“Dw i’n awyddus iawn, iawn i weld hynny, ond rydych chi’n gorfod bod yn berson dewr iawn, iawn, wrth weld yr ambiwlansys yma tu allan i ysbytai, wrth weld y rhestrau aros, i ddweud: ‘Reit, dw i’n cwtogi ar y gofal eilaidd’,” meddai.

“Felly mae’n rhaid cael y cydbwysedd yn iawn; mae’n rhaid ei wneud yn araf deg. Rydyn ni yn gwneud hynny.

“Rydyn ni wedi symud arian ychwanegol i’n cymunedau – £8.5m y gaeaf hwn, er mwyn gwneud yn siŵr bod cefnogaeth yn y gymuned er mwyn stopio pobol rhag mynd i ysbytai.”

“Tawelwch meddwl” am ddyfodol meddygfa yn Eryri

Cadi Dafydd

Roedd pryder yn lleol, wedi i’r meddygon ym Meddygfa Betws-y-coed gyhoeddi eu bod nhw’n dod â’u cytundeb i ben ym mis Ebrill