Mae’n destun “siom” nad yw Llywodraeth Cymru yn gweld “difrifoldeb y sefyllfa” wrth i feddygon iau ledled Cymru ddechrau ar streic tri diwrnod heddiw (dydd Llun, Ionawr 15), yn ôl Plaid Cymru.

Mae’n bosib y bydd dros 3,000 o feddygon iau yn streicio am y tri diwrnod nesaf, wrth fynnu bod trafodaethau’n ailddechrau gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau gwaith adfer cyflogau.

Daw’r streic ar ôl i feddygon iau yng Nghymru weld toriad cyflog o 29.6% mewn termau real ers 2008.

Y llynedd, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i adfer cyflogau, ond cafodd adferiad cyflog o 5% ei gynnig, oedd 1% yn is na’r hyn gafodd ei awgrymu gan gorff adolygu ar Dâl Meddygon a Deintyddion.

“Ddim yn benderfyniad ysgafn” i streicio

Yn ôl Mabon ap Gwynfor, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd, Plaid Cymru yw’r unig blaid sy’n galw am fuddsoddi yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

“Mae meddygon iau wedi gweld eu cyflog yn cael ei erydu’n barhaus ac mae bron i draean yn llai mewn termau real heddiw na’r hyn oedd 15 mlynedd yn ôl,” meddai.

“Nid yw’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn ddim heb ei weithlu ymroddedig, ac mae’r gweithlu hwnnw’n haeddu cael ei rifo’n iawn a chael yr amgylchedd gwaith cywir er mwyn darparu’r gofal gorau y gallant.

“Gyda chwyddiant yn dal i redeg ar bron i 6%, mae cynnig cyflog o 5% yn doriad arall mewn termau real ac nid yw’n syndod bod aelodau’r BMA wedi penderfynu gweithredu.

“Dyw’r penderfyniad i weithredu diwydiannol ddim yn un y byddan nhw wedi ei wneud yn ysgafn, ac mae’n siom mor fawr gweld Llywodraeth Lafur yng Nghymru yn methu deall difrifoldeb y sefyllfa wrth i streiciau ddechrau heddiw am dri diwrnod.

“Yr eliffant yn yr ystafell yw nad yw Cymru’n cael ei hariannu’n deg, sy’n golygu nad ydym yn gallu talu’r hyn y maent yn ei haeddu i’n gweithwyr sector cyhoeddus.

“Plaid Cymru yw’r unig blaid sy’n gwneud yr alwad hon – i fuddsoddi yn ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol, ac i sicrhau nad ydym yn ddibynnol ar benderfyniadau a wneir yn Lloegr.”

‘Nid oes unrhyw feddyg eisiau gweithredu diwydiannol’

Dros y tri diwrnod nesaf, bydd meddygon yn bresennol ar linellau piced y tu allan i holl brif safleoedd ysbytai Cymru, yn ogystal ag yn mynd â’u pryderon i aelodau’r Senedd, gyda thorf wedi’i chynllunio y tu allan i’r Senedd fory (dydd Mawrth, Ionawr 16).

“Does dim meddyg eisiau streicio; roeddem wedi gobeithio bod Llywodraeth Cymru wedi deall cryfder y teimladau ymhlith meddygon iau yng Nghymru yn iawn,” meddai Dr Oba Babs-Osibodu a Dr Peter Fahey, cyd-gadeiryddion pwyllgor meddygon iau BMA Cymru Wales.

“Yn anffodus, mae eu diffyg gweithredu dros y mater hwn wedi ein harwain yma heddiw, yn ddigalon, yn rhwystredig ac yn ddig.

“Ar ôl blynyddoedd o danbrisio ein gwasanaeth achub bywydau rydym yn teimlo nad oes gennym unrhyw ddewis ond sefyll dros y proffesiwn a dweud digon yw ddigon, ni allwn ac ni fyddwn yn derbyn y driniaeth annerbyniol ddim mwy.

“Mae ein haelodau wedi cael eu gorfodi i wneud y penderfyniad anodd hwn oherwydd bod meddygon iau yng Nghymru wedi profi toriad cyflog o 29.6% mewn termau real dros y pymtheg mlynedd diwethaf.

“Bydd meddyg sy’n dechrau ei yrfa yng Nghymru yn ennill cyn lleied â £13.65 yr awr ac am hynny fe allen nhw fod yn cyflawni gweithdrefnau achub bywyd ac yn ysgwyddo lefelau enfawr o gyfrifoldeb.

“Nid ydym yn gofyn am godiad cyflog – rydym yn gofyn am adfer ein cyflog yn unol â chwyddiant yn ôl i lefelau 2008, pan ddechreuon ni dderbyn toriadau cyflog mewn termau real.

“Mae angen i gyflog fod yn deg ac yn gystadleuol gyda systemau gofal iechyd eraill ledled y byd i gadw a recriwtio meddygon a staff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol i ddarparu gofal y mae mawr ei angen.

“Ar ben hyn mae meddygon iau yn profi amodau sy’n gwaethygu ac felly mae meddygon bellach yn edrych i adael Cymru i ddatblygu eu gyrfaoedd ar gyfer gwell tâl ac ansawdd bywyd gwell mewn mannau eraill.

“Nid yw’n benderfyniad sydd wedi’i wneud yn ysgafn.

“Nid oes unrhyw feddyg eisiau gweithredu diwydiannol, ond nid ydym wedi cael unrhyw ddewis.

“Mae meddygon eisoes yn pleidleisio gyda’u traed ac yn gadael y GIG ac rydym mewn cylch dieflig o brinder staffio sy’n gwaethygu a gwaethygu gofal cleifion”.

‘Nid ydym mewn sefyllfa i gynnig mwy ar hyn o bryd’

“Mae’n siomedig fod meddygon wedi pleidleisio dros weithredu diwydiannol, ond rydym yn deall cryfder eu teimladau am y cynnig cyflog o 5%,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Er ein bod yn dymuno mynd i’r afael â’u huchelgeisiau adfer cyflogau, mae ein cynnig ar gyfyngiadau’r cyllid sydd ar gael i ni ac mae’n adlewyrchu’r sefyllfa y daethpwyd iddi gyda’r undebau iechyd eraill ar gyfer eleni.

“Heb gyllid ychwanegol gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, nid ydym mewn sefyllfa i gynnig mwy ar hyn o bryd.

“Byddwn yn parhau i bwyso arnyn nhw i drosglwyddo’r cyllid angenrheidiol ar gyfer codiadau cyflog llawn a theg i weithwyr y sector cyhoeddus.

“Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol gyda Chymdeithas Feddygol Prydain a Chyflogwyr y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a byddwn yn sicrhau ar y cyd bod diogelwch cleifion yn cael ei ddiogelu yn ystod gweithredu diwydiannol.”