Mae tafarn gymunedol yn Sir Benfro sydd wedi denu cefnogaeth gan seren Hollywood yn gofyn i gynllunwyr y parc cenedlaethol roi’r hawl iddyn nhw gadw llwybr i bobol ag anableddau, a llwyfan perfformio sy’n cael ei ddefnyddio gan gorau lleol.

Mewn cais ôl-syllol sydd wedi’i gyflwyno i Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro, mae Cymdeithas Tafarn Sinc yn gofyn am ganiatâd i gadw strwythurau yn nhafarn gymunedol Tafarn Sinc yn Rhos-y-bwlch.

“Mae llwyfan presennol ger y dafarn wedi cael ei adfer a’i ymestyn rywfaint, gyda llwybr mynediad newydd wedi’i osod,” meddai’r grŵp cymunedol yn eu cais.

“Cafodd y llwybr ei ychwanegu am resymau iechyd a diogelwch, ac mae’n galluogi pobol ag anableddau a phobol heb anableddau i gael mynediad diogel i’r llwyfan.

“Caiff y llwyfan ei ddefnyddio am amryw o weithgareddau, megis perfformiadau gan gorau lleol.

“Mae’r llwyfan yn hen lwyfan rheilffordd ar linell cysylltiol bach, ac mae wedi’i adfer i edrych yr un fath ag yr oedd e pan oedd e’n weithredol.”

Cafodd y gwaith ei gwblhau yn 2022, medd y cais.

Denu cefnogaeth

Roedd Tafarn Sinc mewn perygl o gau pan ymddeolodd yr hen landlord a landledi yn 2017, ond mae ymgyrch enfawr i godi arian oedd wedi denu sylw byd-eang – gan gynnwys cefnogaeth gan y seren Hollywood Rhys Ifans – yn golygu ei bod hi dan berchnogaeth y gymuned leol sy’n ei rhedeg.

Cododd ymgyrchwyr swm syfrdanol – £325,000 – mewn ychydig dros dri mis er mwyn prynu’r dafarn a’i chadw ar agor ac wrth galon bywyd y gymuned.

Dangosodd eraill fel Huw Edwards, Jamie Owen, Dewi Pws, Dafydd Hywel a Mari Grug eu cefnogaeth hefyd, gyda chyfrannau gwerth £200 yn cael eu prynu gan bobol o bedwar ban byd.

Bydd y cais yn cael ei ystyried gan gynllunwyr y parc cenedlaethol maes o law.