Mae Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, wedi beirniadu’r Ceidwadwyr a Llafur am “ddiystyru confensiynau democrataidd” drwy gynnal cyrchoedd awyr yn erbyn targedau Houthi yn yr Yemen heb gydsyniad seneddol.

Fe wnaeth Rishi Sunak, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, a Syr Keir Starmer, arweinydd yr wrthblaid Lafur, gytuno i weithredu’n filwrol, er bod Starmer wedi cytuno yn y gorffennol â’r angen i gadw at y confensiwn o geisio cydsyniad.

Wnaeth nifer o wledydd Ewrop, gan gynnwys Ffrainc a’r Eidal, ddim ymuno yn y cyrchoedd gan fod angen cydsyniad seneddol arnyn nhw’n gyntaf, ac roedd Ffrainc yn credu na fyddai modd cyfiawnhau’r cyrchoedd fel hunanamddiffyniad.

Mae 101 o ddiwrnodau wedi mynd heibio bellach ers dechrau ymosodiadau Hamas ar Israeliaid, arweiniodd at gyrchoedd gan Israel ar Gaza.

Yn ôl Liz Saville Roberts, dylid canolbwyntio ar sicrhau cadoediad yn Gaza, fyddai’n “anochel yn lleddfu tensiynau yn y rhanbarth ehangach”.

‘Craffu seneddol yn bwysig’

“Mae penderyniad y Prif Weinidog i orchymyn ymosodiadau gan yr Awyrlu ar safleoedd milwrol Houthi yn yr Yemen heb unrhyw graffu seneddol o gwbl yn dangos diffyg ystyriaeth Rishi Sunak am gonfensiynau democrataidd,” meddai Liz Saville Roberts.

“Mae’r perygl o gynyddu’r gwrthdaro yn y Dwyrain Canol yn gofyn am ddull gofalus wedi’i addasu er mwyn atal rhagor o ansefydlogrwydd mewn rhanbarth sydd eisoes yn danllyd.

“Yn y cyd-destun hwn, mae yna gwestiynau o ran a ellid ystyried y cyrchoedd yn hunanamddiffyniad dilys, a dydyn ni ddim wedi ein hargyhoeddi fod yr Unol Daleithiau a’r Deyrnas Unedig wedi archwilio’r holl opsiynau cyn ymrwymo i weithredu’n filwrol.

“Y cwestiynau hyn yw’r rheswm pam fod craffu seneddol mor bwysig.

“Rydyn ni’n gwybod ers amser maith fod gan Rishi Sunak a David Cameron, yr Ysgrifennydd Tramor anetholedig, ychydig iawn o ddiddordeb mewn democratiaeth neu gonfensiynau seneddol.

“Mae’n destun siom, fodd bynnag, fod Keir Starmer wedi ymuno â nhw drwy gefnu ar addewidion blaenorol i sicrhau bod cydsyniad seneddol ar gyfer gweithredu’n filwrol yn rhan o’r gyfraith.

“Aeth 100 niwrnod heibio ers yr ymosodiadau erchyll ar Israeliaid diniwed gan Hamas, a’r ymateb anghymesur ddilynodd gan Israel, sydd wedi arwain at ladd mwy na 23,000 o bobol.

“Dylid canolbwyntio ar sicrhau cadoediad yn Gaza, fyddai’n anochel yn lleddfu tensiynau yn y rhanbarth ehangach.

“Mae Plaid Cymru’n anelu i ofyn y cwestiynau hyn i’r Prif Weinidog heddiw, gan nodi’r cyfle cyntaf, er gwaetha’r adroddiadau bod Mr Sunak wedi gwneud y penderfyniad ddydd Mawrth diwethaf.

“Gobeithio y bydd pleidiau eraill yn ymuno â ni drwy alw am weithdrefnau seneddol mwy cadarn yn rhan o’r gyfraith er mwyn sicrhau nad yw jingoistiaeth yn chwarae rhan mewn penderfyniadau milwrol.”