Bydd Vaughan Gething yn lansio’i ymgyrch i ddod yn arweinydd Llafur Cymru ac yn Brif Weinidog Cymru heddiw (dydd Llun, Ionawr 15), drwy addo creu “dyfodol tecach i Gymru” drwy dwf swyddi gwyrdd.

Bydd yn amlinellu ei weledigaeth am ddyfodol tecach i Gymru, gan addo rhoi cyfle i bob person lwyddo drwy greu mwy o swyddi a chyfleoedd da, gwyrdd.

Wrth lansio’i ymgyrch yng Nghasnewydd, bydd yn dweud bod yn rhai ymateb i’r her a bachu ar gyfleoedd diwydiannau ynni glân er mwyn creu Cymru decach a chodi pobol allan o dlodi.

Cyflawni cyfiawnder cymdeithasol a chyfiawnder hinsawdd gyda’i gilydd fydd ei genhadaeth ganolog pe bai’n dod yn Brif Weinidog, wrth iddo fe ymrwymo i greu mwy o swyddi sy’n talu’n dda mewn diwydiannau sydd hefyd yn helpu Cymru i fynd i’r afael â newid hinsawdd cyn gynted â phosib.

Bydd ysgogi buddsoddiad i sectorau gwyrdd fel ynni adnewyddadwy yn creu swyddi lleol, a bydd cronfa newydd, Gwaith Teg, yn sicrhau bod gweithwyr yn cael eu talu’n deg.

Bydd atal allforio cyflogaeth yn helpu i sicrhau bod pobol Cymru’n elwa ar y swyddi sy’n cael eu creu.

Mae hyn yn dilyn addewid ganddo fe ddydd Gwener (Ionawr 12) i gyflymu adeiladu tai cymdeithasol i fynd i’r afael â’r argyfwng tai a helpu pobol ledled Cymru i adeiladu dyfodol sicrach i’w hunain a’u teuluoedd.

Yn gynharach yn yr ymgyrch, ymrwymodd e i gadw Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru’n ddiogel yn nwylo cyhoeddus, gyda gwariant y pen ar iechyd a gofal cymdeithasol fyth yn is na hynny yn Lloegr.

‘Teimlo effeithiau 13 mlynedd o anhrefn a llymder Torïaidd’

“Ledled Cymru, mae pobl yn teimlo effeithiau 13 mlynedd o anhrefn a llymder Torïaidd,” meddai Vaughan Gething.

“Pan nad yw’r Torïaid yn ymosod ar hawliau gweithwyr, maen nhw’n leinio pocedi eu ffrindiau, tra bod cymunedau ar draws y wlad yn diodde gyda chostau byw.

“Mae’n bryd i ni gael newid.

“Mae hon yn foment bwysig i Gymru, ond rwy’n obeithiol am yr hyn sydd i ddod.

“Rwyf eisiau i Gymru fod ar flaen y gad yn y chwyldro gwyrdd bydd yn siapio ein dyfodol.

“Yn y ganrif hon, gwaith ein Plaid ni yw creu ffyniant gwyrdd sydd o fudd i bawb, lle mae pŵer a chyfoeth yn cael eu rhannu ymhlith ein cymunedau, nid eu crynhoi yn nwylo yr ychydig breintiedig.

“Rwyf am inni gwrdd â’r her honno a gweithio i sicrhau dyfodol tecach, wedi’i adeiladu gan bob un ohonom.”