Undeb Cenedlaethol y Glowyr ac arweinydd Cyngor Sir Ddinbych yw’r diweddaraf i ddatgan eu cefnogaeth i Jeremy Miles yn ras arweinyddol Llafur Cymru.

Mae’n herio Vaughan Gething i olynu Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru.

Mae etholaeth Jeremy Miles yn cwmpasu Onllwyn, y pentref oedd yn ganolog i’r ffilm Pride, sy’n adrodd hanes y cydweithio rhwng glowyr a’r gymuned hoyw adeg Streic y Glowyr yn y 1980au.

Pe bai’n cael ei ethol, Jeremy Miles fyddai’r Prif Weinidog hoyw cyntaf yn hanes Cymru.

Mae e hefyd wedi cael cefnogaeth Jason McLellan, arweinydd Cyngor Sir Ddinych, sy’n golygu bellach ei fod e wedi cael cefnogaeth mwyafrif o arweinwyr a dirprwy arweinwyr cynghorau llafur, a’r Grŵp Llafur yn y Senedd, ynghyd â phump allan o chwech o ganghennau Llafur fu’n pleidleisio dros y penwythnos.

‘Diolch’

“Dw i’n diolch i Undeb Cenedlaethol y Glowyr am eu cefnogaeth, a’u gwaith parhaus wrth gynrychioli buddiannau cyn-lowyr, eu teuluoedd a’u cymunedau,” meddai Jeremy Miles.

“Wrth dyfu i fyny yn ne Cymru diwydiannol, Streic y Glowyr oedd fy neffroad gwleidyddol.

“Yn yr ysgol yn fy arddegau cynnar, gwelais i â’m llygaid fy hun y caledi wynebodd cynifer o deuluoedd wrth i’w rhieni frwydro am eu bywoliaeth yn erbyn ymosodiad gwarthus Thatcher ar ein cymunedau.

“Dydy hyn ddim yn rywbeth wyliais i o bell, nac wedi’i weld ar y teledu, ond yn rywbeth welais i drosof fi fy hun.

“Fe adawodd graith ddofn iawn arna i.

“Fe’m siapiodd fi fel person, fy ngwleidyddiaeth, a’r angerdd a’r penderfyniad sydd gen i i weithio dros ddyfodol Cymru.”