Roedd dechreuad bywiog ym Mhenarth i gyfres o ddigwyddiadau fydd yn dathlu sefydlu Plaid Cymru ganrif yn ôl.

Daeth aelodau o’r Blaid a’u gwesteion at ei gilydd i nodi ffurfio grŵp cyfrinachol, y Mudiad Cymreig, un o’r grwpiau ymunodd wedyn i ffurfio’r Blaid Genedlaethol.

Daeth pedwar o bobol ynghyd ar Ionawr 7, 1924, yn rhif 9 Bedwas Place, Penarth, gan gofnodi eu penderfyniad i greu “Plaid Genedlaethol Cymru” – Ambrose Bebb, Griffith John Williams, Elisabeth Williams a Saunders Lewis, y bardd a dramodydd mawr, a darpar arweinydd y Blaid, fu’n byw wedyn ym Mhenarth o 1952 hyd ei farwolaeth yn 1985.

Bu trafodaeth am ganrif o ymgyrchu gan Blaid Cymru a’u gobeithion ar gyfer y dyfodol dan arweiniad Leanne Wood, cyn-arweinydd Plaid Cymru, a’r Athro Richard Wyn Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru.

Talu teyrnged i’r arwyr tawel

Rhoddodd Leanne Wood deyrnged i’r holl aelodau weithiai’n ddygn dros Gymru ar hyd y blynyddoedd, er nad oedden nhw’n amlwg eu hunain, yn arbennig y miloedd o fenywod chwaraeodd ran allweddol wrth adeiladu’r genedl.

Cafodd hyn ei ategu gan Richard Wyn Jones, aeth yn ei flaen i ddadansoddi’r amgylchiadau arweiniodd at ffurfio Plaid Cymru a bwrw golwg ar yr heriau a’r cyfleoedd sydd o’u blaenau.

Ar ôl eu cyfraniadau ym Mhafiliwn Belle Vue roedd sesiwn drafod fywiog am ddyfodol Plaid Cymru, yn ogystal â pherfformiad y Blaid dros y ganrif ddiwethaf.

Dadl frwd

Bu dadl frwd hefyd am ddyddiad a lleoliad sefydlu Plaid Genedlaethol Cymru.

Caernarfon ym Mis Rhagfyr 2024, meddai Richard Wyn Jones.

Ond o’r gynulleidfa, daeth achos cryf dros Benarth gan Gwenno Dafydd – un o dri o ddisgynyddion Ambrose Bebb oedd yn bresennol.

Yn swyddogol, fodd bynnag, bydd y canmlwyddiant yn cael ei ddathlu ym Mis Awst y flwyddyn nesaf, canfed pen-blwydd y cyfarfod ym Mhwllheli yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1925.

Cafodd y noson ei threfnu gan Gangen Penarth a Dinas Powys o’r Blaid, gyda chefnogaeth Cymdeithas Hanes Plaid Cymru, a chafodd ei chadeirio gan Gaeth Clubb.

“Rydyn ni wrth ein boddau gyda’r gefnogaeth gref i gyfarfod llwyddiannus dros ben, y cyntaf mewn cyfres sydd i olrhain cwrs ffurfio mudiad cenedlaethol Cymru ganrif yn ôl,” meddai Dafydd Williams, cadeirydd y Gymdeithas Hanes.