Pobydd oedd Joseff Thomas. Gyda balchder mawr, croesodd Joseff y ffordd, i gael gwell golwg ar arwydd newydd y popty.
Roedd Joseff yn falch iawn o’r arwydd newydd hwn, gan mai ef a’i cynlluniodd, ei baentio a’i osod yn ei le. Arwydd da ydoedd, yn dweud y cyfan:
GWERTHIR BARA FFRES YMA
BOB DYDD
Daeth cymydog heibio, gan sefyll wrth ochr Joseff, a meddai, “Arwydd cwbl wirion Joseff!”
“Pam?”, atebodd Joseff, “Beth sy’n wirion amdani?”
“BARA FFRES” Joseff? Buasai neb o’th gwsmeriaid yn meddwl am eiliad nad yw dy fara’n ffres, pe na baet ti’n awgrymu hynny gyda’r arwydd newydd yma!”
“Ti’n iawn.”
Croesodd Joseff y ffordd yn ôl i’r popty, dringo’r ysgol, a phaentio dros y gair ‘FFRES’.
“Aros lle’r wyt ti!” meddai’r cymydog.
“Beth am ‘GWERTHIR’? Mae pawb yn deall bo’ ti’n gwerthu bara, nid rhoi bara i ffwrdd am ddim mohonot, na?!”
“Ti’n iawn eto,” meddai Joseff. Croesodd allan y gair ‘GWERTHIR’.
“A pham ‘YMA’ Joseff? Mae’n amlwg mai ‘yma’ rwyt yn gwerthu bara, nid ‘yno’!”
“Digon gwir, gyfaill,” atebodd Joseff, a phaentiodd dros y gair ‘YMA’.
Wedi i Joseff gyrraedd gwaelod yr ysgol, meddai’r cymydog, “Ai call yw dweud bo ti’n gwerthu bara ffres ‘BOB DYDD’? Os wyt ti’n pobi bara ‘bob dydd’, rhaid bo’ ti’n ei werthu ‘bob dydd’!”
“Cywir,” ac fe aeth Joseff eto i ben yr ysgol, a chroesi allan y cymal ‘BOB DYDD’.
Disgynnodd yr ysgol, a chroesi’r ffordd eto, a syllu ar arwydd oedd yn darllen bellach, yn syml:
BARA
“Perffaith,” meddai’r cymydog.
“Perffaith,” meddai Joseff.
Daeth cymydog arall a sefyll wrth ochr y ddau, a meddai hwnnw, “Arwydd cwbl wirion Joseff!”
“Pam?”, gofynnodd Joseff. “Beth sy’n wirion amdano?”
“‘BARA’ Joseff? Beth sy’n bod arnat ddyn? ‘Does dim angen arwydd arnat! Dw i’n ogleuo dy fara’n pobi o bell bob dydd!”
Croesodd Joseff y ffordd, dringo’r ysgol eto fyth, a thynnu’r arwydd i lawr. Diolchodd i’w gymdogion, ac aeth yn ôl at ei waith yn pobi bara.
Gadawaf y stori hon gyda chi, meddyliwch amdani. Mae hi’n dweud rhywbeth wrthym am waith yr eglwys – sef gwaith pob aelod ohoni; pawb sydd yn cyfrannu iddi, derbyn ganddi ac â diddordeb ynddi – yn lleol; beth sydd wir yn bwysig, a beth sydd – wir i Dduw! – ddim.