Mae dyfodol meddygfa yn un o drefi mwyaf poblogaidd Parc Cenedlaethol Eryri yn ddiogel, wrth i broses ddechrau i ddod o hyd i ddeiliaid newydd i’r cytundeb.
Roedd pryder yn lleol wedi i’r meddygon ym Meddygfa Betws-y-coed gyhoeddi eu bod nhw’n dod â’u cytundeb i ben ym mis Ebrill.
Ond mae’r Cyngor Cymuned yn awyddus i dawelu meddyliau’r gymuned, ac wedi cael sicrwydd y bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn chwilio am gontractwr newydd.
Pe bai hynny’n methu, bydd y Bwrdd Iechyd yn rhedeg y feddygfa eu hunain o Fai 1.
Cyfarfod cyhoeddus
Bydd y Cyngor Cymuned, y Cynghorydd Liz Roberts, yr Aelod o’r Senedd Llŷr Gruffydd, a mudiad cleifion Llais yn cynnal cyfarfod cyhoeddus am y mater fis nesaf.
“Fe wnaethon ni fel Cyngor Cymuned gysylltu efo Llais achos be’ rydyn ni eisiau ydy tawelu meddwl y gymuned nad ydy’r feddygfa’n mynd i gau,” meddai Haf Jones, clerc Cyngor Cymuned Betws-y-coed, wrth golwg360.
“I fod yn deg, doedd y llythyr gafodd y bobol ddim yn dweud ei fod o’n mynd i gau, ond yn dweud fod y ddwy GP yn rhoi’i contracts mewn ac yn gorffen diwedd mis Ebrill.
“Roedd yna awgrym yn y llythyr efallai y bysa yna weithio ar y cyd efo meddygfeydd Cerrigydrudion a Llanrwst.
“Mae meddygfa Betws yn gyfrifol am ardal eang, nid dim ond Betws-y-coed; mae hi’n gwasanaethu Penmachno, Dolwyddelan, Capel Curig, Betws-y-coed, Capel Garmon, Nebo, Trefriw a rhai pobol o Lanrwst. Mae hi’n ardal eang, ardal wledig.
“Mae poblogaeth Betws-y-coed yn treblu, os ddim yn fwy, yn ystod y tymor ymwelwyr, ac mae hi’n ardal lle mae yna ganran uchel o bobol hŷn yn byw, wedyn dydy hi ddim yn hawdd i bobol deithio i feddygfeydd eraill.
“Hefyd, wrth gwrs, oes ganddyn nhw le i gymryd mwy o gleifion, neu fydd o’r straw that broke the camel’s back yn fan yno?”
Ar ôl trafod efo Llais Gogledd Cymru, cafodd y Cyngor Cymuned dawelwch meddwl am y broses, a sicrwydd fod y Bwrdd Iechyd am chwilio am feddygon eraill i gymryd y cytundeb.
“Os na fydd yna neb yn dod ymlaen i’w gymryd o drosodd, mi fydd Betsi Cadwaladr eu hunain yn ei rhedeg hi o Fai 1,” meddai Haf Jones wedyn.
“Mae hynny, i ni, yn dawelwch meddwl ac rydyn ni fel Cyngor Cymuned eisiau ei drosglwyddo i’r gymuned nad ydy eu meddygfa nhw’n mynd i gau.”
‘Cynlluniau clir a chadarn’
Bydd y cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal am 7 o’r gloch nos Lun, Ionawr 8 yn y Neuadd Goffa ym Metws y Coed.
Maen nhw wedi gwahodd uwch benaethiaid y Bwrdd Iechyd i ddod i glywed barn y gymuned ac i ateb cwestiynau.
“Mae’n hollbwysig bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ceisio recriwtio contractwr newydd, neu o fethu gwneud hyn, yn rhoi cynlluniau clir a chadarn ar waith i sicrhau fod parhad yn y gwasanaethau y mae’r gymuned hon eu hangen ac yn eu haeddu,” meddai Llŷr Gruffydd, y Cynghorydd Liz Roberts, a chynrychiolwyr o Llais Gogledd Cymru a Chyngor Cymuned Betws-y-coed mewn datganiad ar y cyd.
“Rydym yn annog pobol i fynychu’r cyfarfod cyhoeddus ar Ionawr 8 ac i gymryd rhan yn y trafodaethau am eu darpariaeth gofal iechyd.”