Mae’n annhebygol y bydd unrhyw wasanaeth lleol yn gallu osgoi toriadau, yn ôl arweinydd Cyngor Gwynedd.

Daw ei sylwadau yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ddydd Mercher (Rhagfyr 20) y bydd y cyllid mae cynghorau Cymru yn ei dderbyn yn cynyddu.

O fis Ebrill, bydd y refeniw craidd ar gyfer llywodraeth leol yn cynyddu 3.1%.

Fodd bynnag, mae’r cynnydd yn parhau i fod yn is na chwyddiant.

Cynghorau Gwynedd ac Ynys Môn fydd yn gweld y cynnydd lleiaf, sef 2%.

Er hynny, dywed Dyfrig Siencyn fod y cynnydd y bydd Cyngor Gwynedd yn ei weld yn uwch na’r ffigwr disgwyliedig o 1.7%.

‘Ddim yn mynd yn ddigon pell’

Ychwanega ei fod yn ddiolchgar fod yna isafswm wedi’i bennu ar gyfer y cynnydd, ond nad yw’n mynd ddigon pell i gau’r bwlch ariannol.

“Wrth gwrs, dydy o ddim yn dod yn agos at beth rydym ei angen i lenwi’r bwlch ariannol ac i ateb y galw ar ein gwasanaethau ni,” meddai wrth golwg360.

“Felly, mae’n beryg y byddwn ni’n edrych ar gynnydd sylweddol yn y dreth ynghyd a rhai miliynau o doriadau mewn gwasanaethau.”

Dywed ei fod yn disgwyl y bydd y Cyngor yn wynebu ffigwr o tua 9% pan ddaw i gynyddu’r dreth gyngor.

Bydd trafodaethau pellach yn y flwyddyn newydd, ond mae disgwyl y bydd yn rhaid torri tua £5m oddi ar gyllidebau.

“Mae pob gwasanaeth rydym ni yn ei ddarparu yn gorfod edrych ar eu cyllidebau,” meddai.

“Rydyn ni’n trio ein gorau glas i amddiffyn y gwasanaethau hynny sy’n rhoi gofal i oedolion a phlant, ond dydw i ddim yn meddwl y bydden nhw hyd yn oed yn gallu osgoi rhyw fath o doriad maes o law.

“Mi fydd yna doriad i gyllideb ysgolion wedi ei raglennu.

“Felly, mae pawb yn mynd i fod o dan y chwyddwydr.”

Cyllideb “anghynaladwy”

Mae’r gwrthbleidiau hefyd wedi ymateb yn chwyrn i’r cyllidebau.

Dywed llefarydd Plaid Cymru dros Lywodraeth Leol a Chyllid fod “gofyn i gynghorau wneud mwy gyda llai”.

“Dyma pam mae Plaid Cymru wedi galw’r gyllideb hon yn anghynaladwy,” meddai Peredur Owen Griffiths.

“Mae gwasanaethau rheng flaen yn mynd i ddod o dan bwysau anhygoel a bydd awdurdodau lleol yn wynebu’r dasg anhygoel o benderfynu pa wasanaeth hanfodol i’w colli.

“Mae yna ofn y bydd llawer o gynlluniau sy’n arbed arian yn y tymor hir, yn cael eu difa er mwyn gwella’r sefyllfa yn y tymor byr.

“Gallai hyn fod â goblygiadau mawr i awdurdodau lleol yn y tymor hir.”

Galw am adolygiad

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn galw am adolygiad o’r fformiwla sy’n cael ei ddefnyddio er mwyn cyllido llywodraeth leol.

“Mae’n hen bryd adolygu’r fformiwla ariannu leol, gyda rhai cynghorau’n eistedd ar gannoedd o filiynau o bunnoedd mewn cronfeydd defnyddiadwy ac eraill yn brwydro i gael dau ben llinyn ynghyd, mae’n annheg,” meddai Sam Rowlands, llefarydd llywodraeth leol y blaid.

“Mae dyraniad y gyllideb yn trosglwyddo’r baich o gyfrifoldeb i gynghorau a thrigolion lleol sydd yn gorfod cario baich camreolaeth ariannol Llafur.”