Fydd cadeirydd S4C ddim yn parhau yn ei rôl ar ôl mis Mawrth, yn ôl y wefan newyddion Nation.Cymru.

Mae Rhodri Williams wedi rhoi gwybod i Lucy Frazer, Ysgrifennydd Diwylliant San Steffan, nad yw’n dymuno cael ei ystyried ar gyfer y rôl y tu hwnt i Fawrth 31, pan fydd ei gyfnod yn dod i ben yn swyddogol.

“Rydym yn deall yr amgylchiadau heriol y mae S4C wedi’u hwynebu’n ddiweddar a byddwn yn symud yn gyflym i weithio gyda’r Bwrdd i enwebu Cadeirydd dros dro i gymryd y rôl ar ôl i’ch tymor ddod i ben ar 31 Mawrth,” meddai Lucy Frazer yn y llythyr.

Mae’r Ysgrifennydd Diwylliant wedi ymateb i ddiolch iddo am ei waith, gan ychwanegu y bydd hi’n cadarnhau’r trefniadau i benodi cadeirydd newydd “i roi sefydlogrwydd hirdymor i’r sefydliad”.

Cadeirydd fu dan bwysau

Daw’r cyhoeddiad gan Rhodri Williams yn fuan ar ôl i un o bwyllgorau’r Senedd alw am benodi cadeirydd newydd i arwain Bwrdd S4C.

Daeth galwad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol mewn llythyr at Lucy Frazer, yn dilyn galwad debyg gan y Pwyllgor Materion Cymreig yn San Steffan.

Daeth ymateb y pwyllgorau ar ôl i’r cadeirydd Rhodri Williams a Chris Jones, aelod anweithredol o Fwrdd S4C, fynd gerbron y pwyllgor yn San Steffan i roi tystiolaeth am helynt y sianel oedd wedi arwain at ddiswyddo’r Prif Weithredwr Siân Doyle a Llinos Griffin-Williams, y Prif Swyddog Cynnwys.

Yn y llythyr, dywed Delyth Jewell fod S4C yn “sefydliad unigryw”, bod “ei llwyddiant yn allweddol i Gymru fel cenedl”, a’u gwaith wrth ddarparu cynnwys Cymraeg dros gyfnod o bedwar degawd “wedi bod yn hollbwysig”.

Mae gan y sianel rôl flaenllaw wrth geisio cyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 hefyd, medd y llythyr.

‘Pennod ofnadwy yn hanes S4C’

Cyfeiria’r llythyr at y diswyddiadau diweddar fel “pennod ofnadwy yn hanes S4C”, ac at y “methiannau difrifol o ran arweinyddiaeth weithredol ac anweithredol” ddaeth i’r amlwg yn sgil yr helynt.

“Mae dau uwch arweinydd gweithredol wedi gadael y sefydliad o ganlyniad eisoes,” meddai.

“Fodd bynnag, nid y tîm gweithredol yn unig sy’n gyfrifol am arwain y sefydliad.

“Rydym o’r farn bod gan y Bwrdd rôl hefyd o ran darparu arweinyddiaeth.

“Mae enghreifftiau clir lle dylai Cadeirydd y Bwrdd fod wedi bod yn ymwybodol o’r amgylchedd gwaith yn y sianel.

“Mewn sefydliad o faint S4C, dylai fod wedi bod yn amlwg i’r Cadeirydd bod problemau sylweddol.

“Dylai’r niferoedd uchel o staff a oedd yn gadael y sianel fod wedi ei rybuddio.

“Mae’r ffaith na sylwodd ar hyn yn awgrymu methiant ar ran y Cadeirydd o safbwynt trosolwg a llywodraethiant.”

‘Adfer ac adnewyddu ei enw da’

Aeth y llythyr yn ei flaen i awgrymu bod angen penodi cadeirydd newydd “wrth i’r sefydliad geisio adfer ac adnewyddu ei enw da”.

Dywedodd y pwyllgor ei bod hi’n “gwbl annerbyniol” nad yw Lucy Frazer hithau na’i rhagflaenwyr wedi cyfarfod ag arweinwyr S4C, gan fod ganddi “gyfrifoldeb yn y pen draw dros ei lywodraethiant”.

“Fel y gwnaed yn glir i ni heddiw, gwnaed ceisiadau am gyfarfod rhwng S4C a’r Ysgrifennydd Gwladol i drafod y sefyllfa sydd ohoni,” meddai’r llythyr wedyn.

“Cawsom ein syfrdanu o glywed na chafodd y ceisiadau hynny eu derbyn.”

Awgryma’r llythyr wedyn y dylai rheolaeth dros S4C fod yn nwylo gwleidyddion yng Nghymru.

“Yn ein barn ni, mae’r difaterwch hwn wedi tanseilio’r egwyddor bod llywodraethiant S4C yn fater sydd wedi’i gadw’n ôl i Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

“Byddem yn eich annog felly i sicrhau bod gan Lywodraeth Cymru rôl ffurfiol yn y broses o benodi Cadeirydd nesaf S4C, fel bod cyfrifoldeb ar y cyd rhwng DCMS a Llywodraeth Cymru dros wneud y penodiad.”

Ymateb Bwrdd S4C

“Rydym wedi derbyn a nodi sylwadau yr Ysgrifenydd Gwladol yn ei llythyr yn dilyn penderfyniad y Cadeirydd i beidio â chynnig ei enw ar gyfer ail dymor,” meddai llefarydd ar ran Bwrdd S4C.

“Rydym wrthi yn gweithio ar gynllun i sicrhau dyfodol llwyddiannus i S4C a’r sector, gan weithio’n agos gyda chydweithwyr a phartneriaid allweddol, er mwyn parhau i ddarparu gwasanaethau o’r safon uchaf i’n cynulleidfaoedd.

“Byddwn yn diweddaru y DCMS a’r Ysgrifenydd Gwladol ynglŷn a’r manylion mor fuan â phosib.

“Meithrin ac adeiladu diwylliant agored, tryloyw, cynhwysol a blaengar yw ein prif flaenoriaeth.”

S4C: Pwyllgor yn y Senedd yn galw am gadeirydd newydd

Daw galwad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol yn dilyn galwadau tebyg o du San Steffan

S4C: Pwyllgor seneddol yn argymell penodi cadeirydd newydd

Dydy’r Pwyllgor Materion Cymreig ddim wedi’u darbwyllo ar ôl clywed tystiolaeth gan Rhodri Williams heddiw (dydd Mercher, Ionawr 10)