Mae un o bwyllgorau’r Senedd yn galw am benodi cadeirydd newydd i arwain Bwrdd S4C.
Daw galwad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol mewn llythyr at Lucy Frazer, Ysgrifennydd Diwylliant San Steffan, yn dilyn galwad debyg gan y Pwyllgor Materion Cymreig yn San Steffan.
Mae’r pwyllgorau wedi bod yn ymateb ar ôl i’r cadeirydd Rhodri Williams a Chris Jones, aelod anweithredol o Fwrdd S4C, fynd gerbron y pwyllgor yn San Steffan i roi tystiolaeth am helynt y sianel oedd wedi arwain at ddiswyddo’r Prif Weithredwr Siân Doyle a Llinos Griffin-Williams, y Prif Swyddog Cynnwys.
Yn y llythyr, dywed Delyth Jewell fod S4C yn “sefydliad unigryw”, bod “ei llwyddiant yn allweddol i Gymru fel cenedl”, a’u gwaith wrth ddarparu cynnwys Cymraeg dros gyfnod o bedwar degawd “wedi bod yn hollbwysig”.
Mae gan y sianel rôl flaenllaw wrth geisio cyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 hefyd, medd y llythyr.
‘Pennod ofnadwy yn hanes S4C’
Cyfeiria’r llythyr at y diswyddiadau diweddar fel “pennod ofnadwy yn hanes S4C”, ac at y “methiannau difrifol o ran arweinyddiaeth weithredol ac anweithredol” ddaeth i’r amlwg yn sgil yr helynt.
“Mae dau uwch arweinydd gweithredol wedi gadael y sefydliad o ganlyniad eisoes,” meddai.
“Fodd bynnag, nid y tîm gweithredol yn unig sy’n gyfrifol am arwain y sefydliad.
“Rydym o’r farn bod gan y Bwrdd rôl hefyd o ran darparu arweinyddiaeth.
“Mae enghreifftiau clir lle dylai Cadeirydd y Bwrdd fod wedi bod yn ymwybodol o’r amgylchedd gwaith yn y sianel.
“Mewn sefydliad o faint S4C, dylai fod wedi bod yn amlwg i’r Cadeirydd bod problemau sylweddol.
“Dylai’r niferoedd uchel o staff a oedd yn gadael y sianel fod wedi ei rybuddio.
“Mae’r ffaith na sylwodd ar hyn yn awgrymu methiant ar ran y Cadeirydd o safbwynt trosolwg a llywodraethiant.”
‘Adfer ac adnewyddu ei enw da’
Mae’r llythyr yn mynd yn ei flaen i awgrymu bod angen penodi cadeirydd newydd “wrth i’r sefydliad geisio adfer ac adnewyddu ei enw da”.
Dywed y pwyllgor ei bod hi’n “gwbl annerbyniol” nad yw Lucy Frazer hithau na’i rhagflaenwyr wedi cyfarfod ag arweinwyr S4C, gan fod ganddi “gyfrifoldeb yn y pen draw dros ei lywodraethiant”.
“Fel y gwnaed yn glir i ni heddiw, gwnaed ceisiadau am gyfarfod rhwng S4C a’r Ysgrifennydd Gwladol i drafod y sefyllfa sydd ohoni,” medd y llythyr wedyn.
“Cawsom ein syfrdanu o glywed na chafodd y ceisiadau hynny eu derbyn.”
Awgryma’r llythyr wedyn y dylai rheolaeth dros S4C fod yn nwylo gwleidyddion yng Nghymru.
“Yn ein barn ni, mae’r difaterwch hwn wedi tanseilio’r egwyddor bod llywodraethiant S4C yn fater sydd wedi’i gadw’n ôl i Lywodraeth y Deyrnas Unedig.
“Byddem yn eich annog felly i sicrhau bod gan Lywodraeth Cymru rôl ffurfiol yn y broses o benodi Cadeirydd nesaf S4C, fel bod cyfrifoldeb ar y cyd rhwng DCMS a Llywodraeth Cymru dros wneud y penodiad.”