Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru wedi codi pryderon am effaith bosib newidiadau i strwythur y flwyddyn ysgol ar Sioe Llanelwedd.

Daw hyn ar ôl i Lywodraeth Cymru ddweud eu bod nhw’n ystyried cwtogi gwyliau haf ysgolion i bum wythnos o’r chwe wythnos arferol.

Byddai hynny’n golygu eu bod nhw’n dechrau wythnos yn hwyrach, ac y byddai ysgolion ar agor yn ystod wythnos y Sioe.

Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn honni y byddai’r newidiadau’n achosi niwed ariannol sylweddol.

“Mae miloedd o blant yn cystadlu yn Sioe Frenhinol Cymru bob blwyddyn, mewn cystadlaethau ffermwyr ifanc a dosbarthiadau tywysydd ifanc a dosbarthiadau iau,” meddai llefarydd.

“Byddai’r newid arfaethedig hwn yn dileu’r cyfle i bobol ifanc gystadlu yn y Sioe, ac i ddysgu ac arddangos eu sgiliau.”

Effaith economaidd

Yn ôl y trefnwyr, mae bron i 250,000 o bobol yn ymweld â Sioe Llanelwedd bob blwyddyn, sy’n golygu ei bod yn cyfrannu tua £40m i’r economi fel digwyddiad, tra bod tua £10m o wariant gan ymwelwyr yn ystod yr wythnos hefyd.

Dywed y Gymdeithas nad ydyn nhw’n anghytuno â’r egwyddor o ailstrwythuro’r calendr ysgol, ond fod angen ailystyried y dyddiadau.

Dadl Llywodraeth Cymru yw fod angen dylunio calendr ysgol sy’n “gweithio’n well i ddysgwyr, athrawon a staff, ac sy’n rhoi’r cyfle gorau i bawb ffynnu yn yr ysgol”.

“Rydym yn parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys Sioe Frenhinol Cymru, ac mae’r ymgynghoriad cyhoeddus yn cynnig cyfle i bawb leisio eu barn ar y cynigion,” meddai llefarydd.

Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynlluniau yn dod i ben ar Chwefror 12.