Cyflwynwyr radio a theledu a dylanwadwr ar-lein yw llysgenhadon gŵyl Wyddeleg Seachtain na Gaeilge le Energia eleni.
Cafodd enwau Gráinne Seoige, Kayleigh Trappe ac Aindriú de Paor eu cyhoeddi yn Nulyn heddiw (dydd Iau, Ionawr 11).
Cyflwynwraig deledu a newyddiadurwraig yw Gráinne Seoige, ac mae hi’n dod o An Spidéal, Gaillimh (Galway) yn wreiddiol.
Dylanwadwr o Monaghan yw Kayleigh Trappe, ac mae ganddi ddilyniant sylweddol ar TikTok ers rhai blynyddoedd.
Cyflwynydd radio o Tipperary yw Aindriú de Paor, ac mae’n gweithio i RTÉ 2FM, RTÉ Sport a Spórt TG4.
Wrth lansio’r ŵyl gyda sesiwn banel, bu’r tri yn trafod eu perthynas â’r iaith Wyddeleg, a’r ffyrdd y byddan nhw’n hybu’r iaith yn ystod yr ŵyl.
‘Mae ysbryd yr ŵyl yn gryf’
“Gyda 50 diwrnod yn unig cyn Seachtain na Gaeilge le Energia 2024, mae ysbryd yr ŵyl yn gryf, ac mae momentwm enfawr i wneud yr ŵyl eleni’n fwy ac yn fwy bywiog,” meddai Gráinne Seoige.
“Dw i’n edrych ymlaen at weld yr holl ddigwyddiadau gwych yn cael eu cynnal yn ystod Seachtain na Gaeilge le Energia, a dw i’n dymuno pob lwc i’r holl grwpiau wrth drefnu a chynllunio ar gyfer yr ŵyl dros y 50 diwrnod nesaf!”
Yn ôl Conchubhair Mac Lochlainn, Cathaoirleach (cadeirydd) Seachtain na Gaeilge le Energia, mae gan y tri llysgennad eu “straeon unigryw a diddorol am eu profiadau â’r iaith Wyddeleg”.
Bydd y tri yn rhannu’r straeon hyn rhwng Mawrth 1-17, a hynny wrth i bobol ym mhob cwr o Iwerddon a thu hwnt gymryd rhan yn yr ŵyl.
Yn ôl y trefnwyr, bydd yn “gyfle i gymunedau ledled Iwerddon ddefnyddio, ymarfer a dysgu Gwyddeleg gyda’i gilydd”.
50 ffordd o baratoi
Mae trefnwyr yr ŵyl wedi cyhoeddi rhestr o 50 o ffyrdd y gall pobol baratoi ar gyfer Seachtain na Gaeilge le Energia 2024 dros y 50 diwrnod i ddod, ac maen nhw i’w gweld ar eu gwefan.
Bydd Seachtain na Gaeilge le Energia yn cael ei lansio’n swyddogol yn Baile Bhláinséir ger Dulyn ar Chwefror 24.
Caiff Seachtain na Gaeilge le Energia ei threfnu gan Conradh na Gaeilge agus a’i hariannu gan Foras na Gaeilge.