Dydy hi ddim yn rhy hwyr i HSBC wneud tro pedol ynghylch eu penderfyniad i gau eu llinell gymorth Gymraeg, yn ôl Aelod Plaid Cymru o’r Senedd.

Ar hyn o bryd, mae disgwyl i’r gwasanaeth ddod i ben ddydd Llun (Ionawr 15), yn dilyn yr hyn mae Llŷr Gruffydd yn ei alw’n benderfyniad “annerbyniol”.

Mae’n erfyn ar y cwmni i “wneud y peth iawn” a pharhau i gynnal y gwasanaeth, ar ôl iddyn nhw gael eu beirniadu’n chwyrn yn dilyn llythyr at wleidyddion yn rhoi gwybod iddyn nhw am eu penderfyniad i ddirwyn y gwasanaeth i ben.

Ysgrifennodd Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol y Senedd at y banc yn eu cyhuddo o ddangos “dirmyg” tuag at siaradwyr Cymraeg, gan ychwanegu bod “methiant HSBC i gynnal dull sy’n cyd-fynd â’i werthoedd yn cael ei ystyried yn annidwyll ac yn annifyr”.

Pwyllgor seneddol

Yn sgil y penderfyniad, aeth José Carvalho, Pennaeth Cyfoeth a Bancio Personol HSBC, gerbron pwyllgor yn y Senedd i roi tystiolaeth ddiwedd mis Tachwedd.

Dywedodd y banciwr fod y llinell gymorth Gymraeg yn derbyn tua 22 o alwadau’r dydd, ac mai dim ond 6% o’r galwadau hynny sy’n cael eu hateb yn Gymraeg.

Ond tarodd y pwyllgor yn ôl, gan ddweud bod hyn yn golygu nad yw 94% o’r galwadau’n cael eu hateb yn Gymraeg, a bod hyn yn dangos methiant sylfaenol yng ngwasanaeth y banc.

Dywedodd y pwyllgor fod y nifer isel o alwadau i’r llinell yn adlewyrchu “anallu” HSBC i ddarparu gwasanaeth gweithredol a chyson sy’n diwallu anghenion ei gwsmeriaid Cymraeg eu hiaith.”

‘Ddim yn agos i ddarparu gwasanaeth digonol’

“Mae yna dal gyfle i HSBC wneud y peth iawn trwy wrthdroi y penderfyniad annerbyniol i ddiddymu ei linell ffôn Cymraeg,” meddai Llŷr Gruffydd.

“Dylai rheolwyr HSBC gofio bod nifer o’u cwsmeriaid yn defnyddio eu gwasanaethau bancio oherwydd eu llinell gymorth Gymraeg.

“Mae’r banc yn honni nad oes digon o alw am y llinell gymorth, achos mai 22 galwad mae’n eu dderbyn y diwrnod ar gyfartaledd.

“Ond mae o’n gwbl glir o’r data sy’n dangos mai dim ond 6% o’r galwadau yna sydd yn cael eu hateb yn Gymraeg; nid ydynt yn dod yn agos i ddarparu gwasanaeth digonol.

“Dylai galwadau sy’n cael eu gwneud i’r llinell gymorth yn Gymraeg gael eu hateb yn Gymraeg.

“Does dim syndod bod nifer o siaradwyr Cymraeg wedi rhoi’r gorau i’w ffonio.

“Yn lle diddymu’r gwasanaeth, dylai HSBC fuddsoddi ynddo yn iawn am o leiaf ddeuddeg mis, gan sicrhau ei fod yn cael ei hysbysu yn iawn.

“Wedyn, ar ddiwedd y cyfnod yna, gall wneud asesiad lot gwell o’r galw.”

Bancio yn Gymraeg “ddim yn ddewis” i lawer

“I nifer fawr o bobol, dydi cael mynediad i’w banc trwy’r Gymraeg ddim yn ‘ddewis’ fel mae HSBC yn ei ddweud,” meddai Llŷr Gruffydd wedyn.

“Mae HSBC yn dweud eu bod nhw wedi ‘cadarnhau’ bod eu cwsmeriaid i gyd yn medru bancio yn Saesneg.

“Mae hyn yn agwedd sydd yn perthyn i ganrif arall.

“Mae o hefyd yn anwir, yn enwedig i nifer o bobl hyn a bregus.

“Cysylltodd etholwraig yn ddiweddar, oedd yn teimlo yn rhwystredig ar ôl i aelod o dim gofal cwsmeriaid HSBC ofyn iddi ailyrru neges Cymraeg yn Saesneg.

“Mae hyn yn un o nifer o esiamplau o ddiystyrwch llwyr HSBC tuag at siaradwyr Cymraeg.

“Fel siaradwr Cymraeg fy hun, ac fel aelod o Bwyllgor Diwylliant y Senedd, rydw i’n rhannu rhwystredigaeth fy etholwyr.

“Mae nifer o gwsmeriaid HSBC yng Nghymru wedi gweld eu canghennau lleol yn cau hefyd dros y degawd diwethaf.

“Mae’r effaith ar gwsmeriaid hŷn HSBC hyd yn oed yn fwy sylweddol, yn ogystal ag ar bobol sydd heb fynediad i dechnoleg digidol.

“Er bod HSBC yn hoff o ddisgrifio’u hunain fel banc lleol y byd, mae o’n hollol glir nad yw hyn yn wir yng Nghymru, tra ei fod yn ymadael â siaradwyr Cymraeg ac yn ymadael â’n strydoedd mawr trwy gau canghennau.”

HSBC: “O’r fath eironi!”

Y banc yn ymateb i sylwadau Llŷr Gruffydd am eu hagwedd at y Gymraeg – gan ddweud na allan nhw ddim ond cyfathrebu yn Saesneg

HSBC dan y lach eto am fod yn “amharchus” drwy ofyn am neges yn Saesneg

Dyma “esiampl arall” o “ddiystyrwch llwyr” y banc “tuag at siaradwyr Cymraeg”, yn ôl Llŷr Gruffydd

HSBC: Tridiau i ymateb i alwadau Cymraeg

Cyhuddodd un o bwyllgorau’r Senedd y cwmni o beidio a darparu yn ddigonol ar gyfer cwsmeriaid Cymraeg

HSBC yn wynebu cwestiynau gan un o bwyllgorau’r Senedd

Daw hyn yn dilyn penderfyniad y banc yn ddiweddar i ddirwyn gwasanaeth Cymraeg i ben

Gwasanaeth Cymraeg HSBC: Galw am “gymodi”, ac nid “mynnu llosgi pontydd”

Siân Gwenllian, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Arfon, wedi derbyn ymateb uniaith Saesneg i’w llythyr am ddirwyn gwasanaeth Cymraeg i ben

‘Banc lleol y byd’ yn dirwyn gwasanaeth Cymraeg i ben: ‘Gall pawb fancio yn Saesneg’

Mae gwleidyddion wedi ymateb yn chwyrn i’r newyddion ynghylch HSBC