Mae Siân Gwenllian yn galw ar fanc HSBC i “gymodi”, yn hytrach na “llosgi pontydd”.

Daw sylwadau Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Arfon ar ôl iddi dderbyn llythyr uniaith Saesneg gan y banc yn ymateb i’w phryderon am gau gwasanaeth Cymraeg.

Daeth cadarnhad yn ddiweddar fod y llinell Gymraeg yn dod i ben, gwta ddwy flynedd ar ôl i’r banc lansio menter i annog eu staff i ddysgu’r Gymraeg, ac i sicrhau bod eu deunyddiau ac arwyddion ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg hefyd.

Roedden nhw’n dweud bryd hynny eu bod nhw’n “falch eithriadol” o helpu i gynnal yr iaith drwy gynnig gwasanaethau Cymraeg i gwsmeriaid.

Maen nhw’n dweud mai 22 o alwadau Cymraeg y dydd maen nhw’n eu derbyn erbyn hyn, o gymharu â 18,000 yn Saesneg.

Unwaith neu ddwy y flwyddyn mae 73% o bobol yn ffonio’r llinell Gymraeg, meddai’r banc.

Llythyr uniaith Saesneg

Cyhoeddodd Siân Gwenllian neges ar ei thudalen X (Twitter gynt) ddydd Iau (Tachwedd 9).

“Annwyl @HSBC. Fel defnyddiwr cyson o’ch llinell Gymraeg, rwy’n mynnu eich bod yn parhau â’r gwasanaeth gan barchu fy hawliau fel siaradwr Cymraeg; gwnewch yn siwr fod gennych ddigon o staff gofal cwsmer sy’n medru sgiliau yn nwy iaith swyddogol Cymru. Diolch yn fawr,” meddai.

Mae HSBC wedi ymateb yn Saesneg, gan ddiolch i Siân Gwenllian “am gymryd amser i rannu pryderon”.

“Tra fy mod yn deall fod y penderfyniad hwn yn anodd, mae’n derfynol,” meddai’r ymateb gan y banc.

Mae Siân Gwenllian wedi ymateb yn chwyrn i’r ail neges honno.

“Mae’n amlwg nad oes gan HSBC unrhyw ddymuniad i gael trafodaeth synhwyrol ynglŷn â dyfodol eu gwasanaeth Cymraeg,” meddai.

“Dylai HSBC fod yn cymodi â chwsmeriaid Cymraeg, ond mae’n amlwg o’r ymateb uniaith Saesneg i fy llythyr eu bod yn mynnu llosgi pontydd.”

‘Banc lleol y byd’ yn dirwyn gwasanaeth Cymraeg i ben: ‘Gall pawb fancio yn Saesneg’

Mae gwleidyddion wedi ymateb yn chwyrn i’r newyddion ynghylch HSBC