Mae disgwyl i bleidlais ar ymgeisyddiaeth Pedro Sánchez i fod yn Brif Weinidog Sbaen gael ei gynnal ddydd Mercher (Tachwedd 15) neu ddydd Iau (Tachwedd 16) yr wythnos hon.
Daw hyn wrth i’r Bil Amnest ar gyfer arweinwyr ymgyrch annibyniaeth Catalwnia gael ei gyflwyno i Gyngres Sbaen.
Cyn i bleidlais gael ei chynnal, mae disgwyl i wleidyddion ar draws y sbectrwm gyflwyno’u dadleuon o blaid ac yn erbyn Sánchez.
Ond mae e eisoes wedi derbyn digon o gefnogaeth gan bleidiau Sbaen, Catalwnia a Gwlad y Basg er mwyn cynnal pleidlais – ryw 179 o aelodau seneddol.
176 yw’r isafswm allan o siambr o 350 o aelodau er mwyn sicrhau mwyafrif.
Er bod y cytundebau’n amrywio, yr un nod sydd ganddyn nhw i gyd, sef amnest ar gyfer y rhai sydd wedi bod yn wynebu achosion yn sgil eu rhan yn yr ymgyrch tros annibyniaeth.
Daeth cytundeb gydag Esquerra yn eithaf cyflym, ond roedd Junts per Catalunya yn awyddus i sicrhau nad oedd y ddeddfwriaeth yn ymwneud ag ymgyrch 2017 yn unig, a’i bod yn cynnwys y cyfnod cyn ac ar ôl 2014 pan ddechreuodd yr ymgyrch.
Fe fu cryn brotestio yn Sbaen ynghylch yr amnest.
Bil Amnest
Mae disgwyl i’r Bil Amnest gael ei gofrestru gyda Chyngres Sbaen heddiw (dydd Llun, Tachwedd 13).
Mae’r bil yn gofyn am “normaleiddio sefydliadol, gwleidyddol a chymdeithasol yng Nghatalwnia”.
Roedd y bil yn un o’r prif ofyion oedd gan y pleidiau o blaid annibyniaeth cyn eu bod nhw’n barod i gefnogi ymgeisyddiaeth Pedro Sánchez yn dilyn etholiad cyffredinol oedd heb esgor ar ganlyniad clir ym mis Gorffennaf.
Bydd yr amnest yn cynnwys gweithgarwch rhwng Ionawr 1, 2012 a Thachwedd 13, 2023 a bydd unrhyw benderfyniadau’n cael eu mabwysiadu o fewn deufis.
Yn y pen draw, bydd modd i wleidyddion alltud, gan gynnwys y cyn-arweinydd Carles Puigdemont, ddychwelyd i’r wlad.
Mae’r ddogfen yn 23 tudalen i gyd, ac mae’n cynnwys 16 o erthyglau a 12 o dudalennau rhagymadroddol, ac mae’n rhoi sylw i ddatrys anghydfodau gwleidyddol a gwella cyd-fyw gan gadw at Gyfansoddiad Sbaen a grym Cyngres Sbaen.
Mae’r testun yn dweud bod cydsyniad yn allweddol er mwyn datrys gwrthdaro a “dileu rhai o’r rhesymau” pam fod trigolion Catalwnia yn anfodlon ar hyn o bryd.
Nod y ddeddf newydd yw “maddau” i ymgyrchwyr am eu gweithredoedd yn erbyn Sbaen yn enw annibyniaeth, ac mae’n cynnwys y rhai sydd eisoes wedi’u herlyn yn ogystal â’r awdurdodau fu’n ceisio cadw trefn.
Ond dydy’r amnest ddim yn cynnwys gweithredoedd o ladd nac anafu’n ddifrifol.
Unwaith ddaw’r amnest i rym, bydd gorchymyn yn cael ei gyflwyno i roi pardwn i’r rheiny sydd yn y carchar, a bydd gwarantau i gynnal chwiliadau hefyd yn cael eu diddymu.