Mae Sarah Atherton, Aelod Seneddol Ceidwadol Wrecsam, yn dweud ei bod hi wedi cwyno wrth Brif Weithredwr Cyngor Wrecsam na chafodd hi ei chynnwys mewn seremoni yn y ddinas ar drothwy Sul y Cofio.

Yn ei llythyr, dywed ei bod hi’n cwyno “yn y termau cryfaf posib” na chafodd hi fod yn rhan swyddogol o’r digwyddiad yn Sgwâr y Frenhines ddydd Sadwrn.

Dywed ei bod hi wedi cael gwahoddiad “fel aelod o’r cyhoedd” ond na chafodd hi ei gwahodd yn swyddogol i’r seremoni nac wedi cael gwybod am “drefniadau Parti’r Maer”.

“Roedd hi’n destun siom aruthrol gweld, felly, fod Aelodau Llafur o’r Senedd yn rhan o Barti’r Maer,” meddai.

Dywed ei bod hi “wedi gweithio’n galed yn barhaus i wella ôl troed milwrol Wrecsam”, a hithau’n gyn-filwr, yn gyn-Weinidog Amddiffyn yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ac yn aelod presennol o’r Pwyllgor Dethol Amddiffyn.

“Yn blwmp ac yn blaen, mae’n sarhau pobol Wrecsam fod Cyngor Wrecsam yn dewis chwarae gwleidyddiaeth ar Ddiwrnod y Cadoediad drwy wahodd aelodau o un blaid ac yn cau Aelod Seneddol y ddinas allan!” meddai.

Ychwanega fod “nifer o gyn-filwyr a chymdeithasau cyn-filwyr wedi sylwi nad oedd eu Haelod Seneddol wedi’i chynnwys yn ffurfiol” yn y seremoni, a’u bod nhw’n “teimlo embaras ac anfodlonrwydd”.

Dywed nad dyma’r tro cyntaf iddi dynnu sylw at “wleidydda” gan Gyngor Wrecsam, a hynny “ar drothwy Etholiad Cyffredinol”, ac mae’n eu hannog nhw i “fabwysiadu dull mwy cynhwysol”.

Mae’n eu cyhuddo nhw o “fod yn gaeth i’r gorffennol”, ac o “fabwysiadu dull ynysig a rhagfarnllyd”, yn ogystal â “dal Wrecsam yn ôl ac amharchu rhannau helaeth o’n cymdeithas”.

Ymateb

“Rydym wedi derbyn y llythyr a byddwn yn ymchwilio i’r gŵyn,” meddai llefarydd ar ran Cyngor Wrecsam.