Mae teclyn newydd i helpu pobol â chlefyd siwgr i gadw eu traed yn iach wedi cael ei lansio heddiw (dydd Mawrth, Tachwedd 14), ar Ddiwrnod Clefyd Siwgr y Byd.
Y modiwl sy’n ymwneud â thraed yw’r ychwanegiad diweddaraf i ap DiabetesClinic@Home, ddechreuodd fel ffordd o fynd i’r afael â’r heriau i gefnogi pobol â chlefyd siwgr yn ystod y pandemig ac i ategu apwyntiadau rhithwir.
Wedi’i ddatblygu gan bartneriaeth o arbenigwyr yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, academyddion o Brifysgol Abertawe, grwpiau o gleifion, Eli Lilly and Company Ltd (Lilly UK) a Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe, mae’r ap yn adnodd digidol ac yn declyn addysg cleifion.
Mae modiwl cyntaf yr ap yn helpu pobol â chlefyd siwgr i wirio am ddosbarthiad afreolaidd braster o dan y croen, gaiff ei alw’n lipos.
Mae’r rhain yn cael eu hachosi drwy chwistrellu inswlin droeon yn yr un lle, a doedd dim modd i ymarferwyr gofal iechyd proffesiynol eu canfod yn ystod apwyntiadau rhithwir.
Gall lipos, neu lipohypertroffedd, effeithio ar lefelau siwgr gwaed (glwcos), gan nad yw inswlin sy’n cael ei chwistrellu mewn man â lipo yn ymledu, a fydd e ddim yn cael yr effaith ddymunol.
Nod yr ail fodiwl yw helpu pobol â chlefyd siwgr sydd ddim yn dioddef â phroblemau hysbys â’u traed i’w gwirio nhw.
‘Hollbwysig canfod problemau’n gynnar’
Dywed Dr Rebecca Thomas, cyd-gyfarwyddwr rhaglen y cwrs MSc Ymarfer Clefyd Siwgr ym Mhrifysgol Abertawe, fod y modiwl newydd yn darparu addysg ar bwysigrwydd gwirio a gofalu am eich traed, ac archwilio’ch traed eich hunain, a phryd i geisio cymorth.
“Rydyn ni’n gwybod fod pobol â chlefyd siwgr yn wynebu risg uwch o ddatblygu problemau gyda’u traed o ganlyniad i lefelau glwcos gwaed uchel sy’n niweidio nerfau a chylchrediad ac yn atal clwyfau rhag iacháu,” meddai.
“Gall niwed i nerfau (niwropatheg ddiabetig) yn y traed leihau synwyriadau pobol, gan olygu y byddan nhw’n llai tebygol o synhwyro unrhyw doriadau neu grafiadau.
“Heb gael eu trin, gall y rhain ddatblygu’n wlserau ac yn heintiau, ac arwain at drychiadau yn yr achosion gwaethaf.
“Felly, mae’n bwysig bod pobol â diabetes yn gwybod sut i ofalu am eu traed a sut i’w gwirio bob dydd, yn enwedig os oes ganddyn nhw niwropatheg ddiabetig.
“Mae’r modiwl newydd hwn yn amlygu sut y gall pobol wirio eu synwyriadau eu hunain.
“Mae’n hollbwysig canfod problemau’n gynnar pan fydd modd eu trin yn hawdd.”
‘Ymateb i’r penbleth’
Gweithiodd tîm o Brifysgol Abertawe dan arweiniad yr Athro Steve Bain, arweinydd clinigol clefyd siwgr, i ddatblygu’r ap a’i gynnwys.
“Gwnaeth y newid i arolygu cleifion allanol â diabetes ar ffurf rithwir yn ystod pandemig Covid-19 arwain at ailfeddwl sut gellid cynnal archwiliadau corfforol arferol,” meddai.
“Mae datblygu ap i helpu pobol sy’n byw gyda chlefyd siwgr i archwilio eu traed eu hunain yn ymateb i’r penbleth hwn, ddylai alluogi pobol i barhau i gael arolygiadau rhithwir, a hynny’n ddiogel, pan fydd hyn yn cydweddu’n well â’u hanghenion unigol.”