Mae gwleidyddion wedi ymateb yn chwyrn ar ôl iddi ddod i’r amlwg fod HSBC, sy’n honni bod yn “fanc lleol y byd”, yn dirwyn eu llinell gymorth Gymraeg i gwsmeriaid i ben.
Daw hyn gwta ddwy flynedd ar ôl i’r banc lansio menter i annog eu staff i ddysgu’r Gymraeg, ac i sicrhau bod eu deunyddiau ac arwyddion ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg hefyd.
Roedden nhw’n dweud bryd hynny eu bod nhw’n “falch eithriadol” o helpu i gynnal yr iaith drwy gynnig gwasanaethau Cymraeg i gwsmeriaid.
Maen nhw’n dweud mai 22 o alwadau Cymraeg y dydd maen nhw’n eu derbyn erbyn hyn, o gymharu â 18,000 yn Saesneg.
Unwaith neu ddwy y flwyddyn mae 73% o bobol yn ffonio’r llinell Gymraeg, meddai’r banc.
‘Hynod siomedig’
Mae penderfyniad HSBC i ddod â’r gwasanaeth i ben yn “hynod siomedig”, yn ôl Samuel Kurtz, llefarydd iaith Gymraeg y Ceidwadwyr Cymreig.
“Gyda banciau’r stryd fawr yn cau eu canghennau, gan adael tyllau yn ein strydoedd mawr, mae bancio ffôn wedi bod yn achubiaeth i nifer o gwsmeriaid,” meddai.
“Mae’r cynnig o wasanaeth ‘galw’n ôl’ a allai gymryd hyd at dridiau, i’r rhai sydd am ddefnyddio’r Gymraeg, yn dipyn o arwyddlun gan fanc oedd ar un adeg yn honni ei fod yn ‘fanc lleol y byd’.
“Er nad yw bancio wedi’i ddatganoli, byddaf yn cyflwyno cwestiwn amserol heddiw i Weinidog y Gymraeg i ddeall a fu unrhyw ymgynghori â Llywodraeth Cymru cyn y penderfyniad hwn.”
‘Iaith fyw’
Dywed Jack Sargeant, Aelod Llafur o’r Senedd, ei fod yn “eithriadol siomedig” na fyddan nhw’n cynnig gwasanaeth Cymraeg bellach.
“Mae’r Gymraeg yn iaith fyw ac yn ddewis iaith nifer pan ddaw at gael mynediad at wasanaethau bancio,” meddai.
“Mae cau canghennau eisoes wedi cyfyngu gwasanaethau Cymraeg i gwsmeriaid yng Nghymru, a bydd hyn yn cyfyngu ymhellach fyth ar eu profiad bancio.
“Dylai HSBC wyrdroi’r penderfyniad hwn ar unwaith.”
Dywed y bydd yntau hefyd yn ysgrifennu at Jeremy Miles a Chomisiynydd y Gymraeg yn gofyn iddyn nhw ymyrryd.
Galw am wyrdroi’r penderfyniad
Yn y cyfamser, mae Plaid Cymru’n galw ar HSBC i wyrdroi eu penderfyniad.
Maen nhw’n dweud bod gwleidyddion wedi cael gwybod am y penderfyniad mewn llythyr heddiw (dydd Mercher, Tachwedd 8).
Yn y llythyr hwnnw, mae’r banc yn dweud y bydd y gwasanaeth yn dod i ben ar Ionawr 15.
Wrth ymateb i’r penderfyniad, cyflwynodd Plaid Cymru cwestiwn brys i Lywodraeth Cymru yn y Senedd.
Maen nhw wedi cysylltu ar frys â Chomisiynydd yr Iaith Gymraeg, ac yn galw am gyfarfod brys gyda HSBC yn San Steffan.
“Mae’n siom enfawr i glywed am benderfyniad HSBC i ddiddymu eu gwasanaeth Iaith Gymraeg dros y ffôn sydd, i nifer fawr o’u cwsmeriaid, yn adnodd hollbwysig,” meddai Heledd Fychan a Ben Lake mewn datganiad ar ran y blaid.
“Rydym yn gweld nifer fawr o’u canghennau yn cau, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, gwasanaethau arian parod yn cael eu cyfyngu, a nawr y gwasanaeth Iaith Gymraeg yma yn cael ei ddiddymu.
“Mae nifer o gwsmeriaid yn defnyddio HSBC oherwydd eu gwasanaeth Cymraeg, ac mae’n wir i ddweud nad yw’r banc wedi gwneud digon i’w hyrwyddo.
“Mae hyn yn ergyd enfawr i’w cwsmeriaid yng Nghymru yn enwedig eu cwsmeriaid hŷn, a’r rhai sydd ddim â mynediad i dechnoleg ddigidol.
“Mae addewid y banc i ‘drefnu galwad yn ôl yn Gymraeg, o fewn 3 diwrnod gwaith’ nid yn unig yn ansensitif i’r pwysau ariannol y bydd rhai pobol yn eu hwynebu, ond hyn yn beryglus.
“I lawer, nid ‘dewis’ yw cael mynediad i’w banc trwy’r Gymraeg – mae’n anghenraid.
“Maen nhw’n dweud eu bod nhw ‘wedi cadarnhau bod pob cwsmer yn gallu bancio yn Saesneg.’ Nid yw hyn yn wir.
“Mae angen i HSBC wyrdroi’r penderfyniad hwn, a gwneud mwy i hyrwyddo a darparu gwasanaethau cyfrwng Cymraeg.”
‘Prawf pellach bod angen deddfwriaeth fwy cadarn’
Dywed Cymdeithas yr Iaith fod y sefyllfa’n “brawf pellach fod angen deddfwriaeth fwy cadarn” er mwyn sicrhau hawliau siaradwyr Cymraeg.
“Mae’r penderfyniad yma’n hynod siomedig, ond yn lle cwyno neu ofyn am eglurhad yn unig, dylai Llywodraeth Cymru sicrhau ei bod yn ddyletswydd cyfreithiol bod rhaid i fanciau a chyrff eraill yn y sector breifat fel archfarchnadoedd i ddefnyddio’r Gymraeg a chynnig gwasanaeth Cymraeg o’r un statws ac ansawdd a’u gwasanaeth Saesneg,” meddai Siân Howys, cadeirydd Grŵp Hawl Cymdeithas yr Iaith.
“Mae nifer o’n haelodau ar hyn o bryd yn wynebu achosion yn eu herbyn er mwyn galw ar gwmniau meysydd parcio preifat i weithredu yn Gymraeg o ran arwyddion a pheiriannau talu.
“Mae yna lu o enhreifftiau eraill ar y stryd fawr ac yn ein bywydau o ddydd i ddydd lle nad yw’r Gymraeg ar gael ac nid oes cyfle i’w defnyddio.
“Mae Mesur y Gymraeg 2011 bellach wedi hen ddyddio ac nid yw’n ddigon effeithiol.
“Mae penderfyniad HSBC i ddod a therfyn i’w gwasanaeth ffôn Cymraeg yn brawf pellach bod angen deddfwriaeth fwy cadarn i sicrhau a hybu ein hawliau.”