Bydd gweithwyr cyngor ym Merthyr Tudful yn cynnal protest heddiw (dydd Mercher, Tachwedd 8), wedi i’r awdurdod lleol roi cyfyngiadau ar y cymorth maen nhw’n gallu’i gael gan undebau.

Mae Unsain, sy’n cynrychioli dros 650 o staff Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, wedi trefnu’r digwyddiad ar ôl i’r Cyngor gyfyngu’r amser y gall gweithwyr fynd at gynrychiolwyr undebau i ddau ddiwrnod yr wythnos, i lawr o bump.

Gallai’r newid arwain at oedi cyn cynnal gwrandawiadau disgyblu a chwynion, ynghyd â thrafodaethau rhwng rheolwyr ac undebau, medd yr undeb.

Dros y chwe mis diwethaf, mae cynrychiolwyr yr undeb yng Nghyngor Merthyr Tudful wedi ymdrin â chwestiynau’n ymwneud ag achosion yn amrywio o fwlio i aflonyddu rhywiol.

‘Siomedig iawn’

Bydd gweithwyr yn ymgyrchu y tu allan i Ganolfan Ddinesig Merthyr Tudful am 3:30yp heddiw, cyn cyfarfod llawn y cyngor.

“Mae cwtogi mynediad at gynrychiolwyr undebau wedi arwain at oblygiadau sylweddol yn barod, ac yn effeithio ar holl weithwyr y cyngor,” meddai Carmen Bezzina, trefnydd rhanbarthol Unsain Cymru.

“Mae’r undeb wastad wedi gweithio at sicrhau bod cynghorau’n datrys anghydfodau’n sydyn,

“Mae’r newid hwn yn siomedig iawn, a bydd yn gwneud hi’n anodd rhoi’r gefnogaeth sydd ei hangen ar staff.”

‘Anoddach cael help’

Dywed Peter Crews, ysgrifennydd cangen llywodraeth leol Cwm Taf Unsain, fod y pwysau cyson ar wariant cyhoeddus yn golygu ei bod hi’n bwysicach nag erioed i staff allu cyfathrebu’n gyson ag undebau.

“Bydd nifer o weithwyr yn ffodus a ddim angen cynrychiolaeth undeb drwy gydol eu gyrfa, ond dydyn nhw byth yn gwybod hynny,” meddai.

“Fe fydd y toriadau hyn yn gwneud hi’n anoddach iddyn nhw gael yr help sydd ei hangen arnyn nhw.”

‘Blaenoriaeth’

Dywed Geraint Thomas, Arweinydd y Cyngor, fod gweithio gydag Undebau Llafur yn parhau i fod yn “flaenoriaeth”.

“Yn Chwefror 2023, yn sgil cyfyngiadau ar gyllidebau ariannol, ac er mwyn cefnogi’r sefydliad drwy’r broses Diswyddiadau Gwirfoddol ac Ymddeoliad Cynnar Gwirfoddol, fe wnaeth y Cyngor basio cynnig i osod amser penodol ar gyfer Undebau Llafur er mwyn cyd-fynd â Deddf yr Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur 1992.

“Fe wnaeth y Cyngor benderfynu ar gyfleuster pum niwrnod yr wythnos i UNISON a GMB am gyfnod penodol o chwe mis.

“Ar ddiwedd y cytundeb tymor penodol hwn, gan ragweld y byddai angen darpariaeth lawn amser yn dal i fod, fe wnaeth swyddogion argymell fod y Cabinet yn parhau â’r drefn pum niwrnod nes diwedd y flwyddyn ariannol, er mwyn cefnogi’r Cyngor drwy’r cyfnod nesaf o osod y gyllideb.

“Fe wnaeth y Cabinet arolygu’r argymhelliad a dod i’r casgliad fod deuddydd yr wythnos fesul Undeb yn ddigon.

“Roedd hyn o ganlyniad i sefyllfa ariannol bresennol y Cyngor, yn seiliedig ar y ffaith fod rhaid i’r sefydliad wneud arbedion ariannol sylweddol i gydbwyso eu cyllideb.

“Er mwyn cymeradwyo’r twf ariannol i’r gwariant drwy’r drefn ddeuddydd yr wythnos, bydd rhaid mynd ag adroddiad at gyfarfod nesaf y Cyngor Llawn ar Dachwedd 8 i’w gymeradwyo.

“Mae gweithio mewn partneriaeth ag Undebau Llafur perthnasol yn parhau i fod yn flaenoriaeth i’r Cyngor a byddan ni’n parhau i sicrhau ein bod ni’n darparu cefnogaeth cysylltiadau Llafur effeithlon ac effeithiol i’n staff.”