Mae Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, yn dweud bod ad-drefnu Cabinet Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn “ffars”.
Mae David Cameron, y cyn-Brif Weinidog, wedi’i benodi’n Ysgrifennydd Tramor ar ôl cael sedd am oes yn Nhŷ’r Arglwyddi.
Dydy e ddim wedi bod yn Aelod Seneddol ers iddo fe gamu o’r neilltu yn 2016 ar ôl sicrhau refferendwm Brexit.
Mae’n olynu James Cleverly, sydd wedi’i benodi’n Ysgrifennydd Cartref yn dilyn diswyddo Suella Braverman.
‘Dim proses benodi ddemocrataidd’
“Mae Rishi Sunak wedi gorfodi Prif Weinidog methedig yn Ysgrifennydd Cartref heb unrhyw broses benodi ddemocrataidd,” meddai Liz Saville Roberts.
“Does dim arlliw o esgus atebolrwydd democrataidd bellach.
“Mae obsesiwn y Torïaid â dal gafael ar rym y tu hwnt i barodi.
“Yn ystod adeg o ansefydlogrwydd rhyngwladol, yn enwedig yn Wcráin ac Israel-Palesteina, fydd aelodau seneddol ddim yn gallu craffu ar waith yr Ysgrifennydd Tramor.
“Sut ar wyneb y ddaear mae Rishi Sunak yn amddiffyn y fath sefyllfa ffarsaidd?
“Mae’r ffaith nad oedd teimlad fod yna’r un Tori yn Nhŷ’r Cyffredin, allan o 350 o aelodau seneddol, yn alluog ar gyfer y rôl yn dangos bod y Ceidwadwyr yn methu llywodraethu.
“Dydy camdriniaeth David Cameron o refferendwm Brexit na’i benderfyniad i gefnu ar y llong wrth iddi suddo ddim yn fesur o fod yn alluog chwaith.
“Fydd y penodiad hwn yn gwneud dim byd, felly, i greu hyder yn noethineb Sunak.”