Mae Dafydd Iwan wedi annog y Brenin Charles i ildio perchnogaeth o gestyll Normanaidd gogledd Cymru a’u dychwelyd i’r genedl.
Yn ôl y canwr ac ymgyrchydd, cafodd ei syfrdanu wedi iddo ddarganfod fod cestyll Caernarfon, Biwmares, Harlech, Conwy a’r Fflint yn dal i fod yn eiddo Ystâd y Goron, er eu bod nhw’n cael eu rheoli gan Cadw, yr asiantaeth gwarchod henebion.
Cafodd un o ganeuon enwocaf Dafydd Iwan, y gân ddychan ‘Carlo’, ei hysbrydoli gan Arwisgo Charles yn Dywysog Cymru yng Nghastell Caernarfon yn 1969, sydd bellach yn Safle Treftadaeth y Byd, pan ddaeth yn Dywysog Cymru, teitl sydd bellach wedi’i drosglwyddo i’w fab William.
‘Newyddion rhyfeddol’
Yn hunangofiant newydd y canwr, Dafydd Iwan: Still Singing Yma o Hyd, mae’n dweud iddo wneud y darganfyddiad wrth geisio trefnu cyngerdd yng Nghastell Caernarfon i ddathlu ei ben-blwydd yn 80 oed ac i nodi 40 mlynedd ers cyfansoddi’r gân ysbrydolodd deitl y llyfr.
“Y bwriad gwreiddiol oedd cael achlysur mawr yng Nghastell Caernarfon, ond er gwaethaf parodrwydd Cadw i weithio gyda ni, yn y diwedd roedd y problemau yn drech na’r manteision,” meddai Dafydd Iwan.
“Yn ystod ein trafodaethau gyda Cadw, dysgais rywbeth oedd yn newyddion rhyfeddol i mi.
“Ers blynyddoedd bellach, rydw i wedi bod yn canmol rhinweddau Castell Caernarfon, a adeiladwyd gan frenin Seisnig i nodi pwynt pellaf ei ymerodraeth, ac i gadw ni’r Cymry yn ein lle, gan ddweud ei fod wedi ei ailgipio, fel petai, trwy Cadw gan bobol Cymru.
“Ond roeddwn ymhell ohoni!
“Er ei fod yn cael ei redeg gan Cadw, mae’r castell – ynghyd ag eraill – yn parhau yn nwylo’r Goron.”
‘Gweriniaeth ddemocrataidd rydd’
Mae Dafydd Iwan hefyd yn credu, pe bai Cymru yn ennill annibyniaeth, y dylai fod gan y bobol y grym i gael gwared ar y Teulu Brenhinol a dod yn weriniaeth, gydag arlywydd etholedig yn bennaeth ar y wladwriaeth.
“Yng Nghymru yn 2023, y flaenoriaeth yw datrys llywodraethu Cymru, a sicrhau bod gan y Senedd bwerau llawn i drefnu Cymru er lles ei phobol, a phenderfynu ar ein blaenoriaethau ein hunain.
“Ar ôl annibyniaeth, bydd pobol Cymru yn gallu penderfynu pa rôl, os o gwbl, maen nhw am i’r Teulu Brenhinol ei chwarae.
“Yn bersonol, rwyf am i Gymru fod yn weriniaeth ddemocrataidd rydd gydag Arlywydd etholedig.
“A cham cyntaf gwych fyddai i’r Goron ddychwelyd at bobol Cymru ei heiddo helaeth, gan gynnwys ein rhanbarthau arfordirol cyfoethog a’r cestyll adeiladwyd gan Edward i’n cadw yn ein lle.”
Cyfarfod y Brenin
Er gwaethaf canu amdano ers dros 50 mlynedd, dim ond unwaith mae Dafydd Iwan a’r Brenin Charles wedi cyfarfod.
“Roedd S4C yn gwneud rhaglen tua 50 mlynedd yn ddiweddarach wedi’r arwisgo ac allan o nunlle dywedodd y cynhyrchydd: ‘Fyddech chi’n cwrdd ag e (Charles) pe baen ni’n trefnu cyfarfod?’ a doeddwn i ddim yn gallu meddwl am reswm da i ddweud na,” meddai.
Cafodd y cyfarfod ei gynnal ym mhreswylfa’r Brenin yn Llwynywermod ar Orffennaf 1, 2019 – 50 mlynedd union wedi’r Arwisgo yng Nghaernarfon.
Cofia Dafydd Iwan i’r Brenin ei groesawu yn Gymraeg, ac eisteddodd y ddau mewn ystafell fawr, gyda’i gynorthwywr, y bardd Dr Grahame Davies sy’n hanu o Goedpoeth, Wrecsam, yn cymryd nodiadau.
“Yn drawiadol, fe wnaeth Charles osgoi unrhyw sôn am yr Arwisgiad, ond fe wnaethon ni lwyddo i drafod gwleidyddiaeth, a gosodais fy ngweledigaeth o’i flaen o Brydain o genhedloedd hunanlywodraethol annibynnol a Lloegr ddatganoledig yn cydweithio er lles pawb, pob cenedl yn rhydd i gyfrannu yn ei ffordd ei hun.
“Ei ymateb oedd ei fod yn dymuno deall y tymheredd gwleidyddol ym mhob rhan o Brydain.
“Hedfanodd yr awr neilltuwyd i’n cyfarfod yn sydyn, ac roedd yn hawdd iawn siarad gyda’m gwrthwynebydd ers blynyddoedd, ond fy argraff arhosol wrth i mi adael oedd o ddyn yn llawn bwriadau da, ond wedi’i gloi i mewn i system na all ei reoli.
“Mae’n garcharor sefydliad y bydd yn ei chael hi’n anodd iawn ei newid, hyd yn oed os oes ganddo awydd i wneud.”