Bydd ICEC (Comisiwn Rhyngwladol Dinasyddion Ewrop) yn cynnal cynhadledd yn Senedd Ewrop ym Mrwsel, ddydd Iau (Tachwedd 16), a Chymru’n rhan ohoni am y tro cyntaf erioed.
Bydd cynrychiolaeth o Gymru yno i hyrwyddo annibyniaeth Cymru ar lwyfan rhyngwladol.
Bydd Aelodau o Senedd Ewrop, Comisiynwyr Ewrop a’r wasg ryngwladol yn bresennol i wrando ar gyflwyniadau gan academyddion ac ymgyrchwyr annibyniaeth o’r Alban, Catalwnia, Cymru, Fflandrys, Gwlad y Basg, Veneto, a De Tyrol.
Mae pob gwlad wedi cynhyrchu ffilm ddogfen yn eu hieithoedd brodorol, fydd yn cael eu dangos am y tro cyntaf yn y gynhadledd.
Nod y gynhadledd yw herio cyfreithiau hynafol sydd, hyd heddiw, yn cael eu defnyddio gan wladwriaethau Ewropeaidd cyn-Ymerodraethol i gyfiawnhau a hawlio awdurdod gwleidyddol a llywodraethol dros wledydd llai sydd wedi’u meddiannu o fewn gwladwriaethau.
Cymru ac annibyniaeth
Gyda Chymru’n ymuno â Chomisiwn Rhyngwladol Dinasyddion Ewrop ym mis Mawrth, bydd ICEC Cymru, mewn cydweithrediad â YesCymru, yn anfon dirprwyaeth o Gymru i drafod annibyniaeth y wlad gerbron y Senedd-dŷ.
Ymysg cynrychiolwyr Cymru mae Jill Evans, cyn-Aelod o Senedd Ewrop rhwng 1999 a 2020; Iestyn ap Rhobert (ICEC Cymru), sylfaenydd YesCymru a llefarydd ICEC o Gymru; a Simon Hobs, cyfarwyddwr Bwrdd Llywodraethol Cenedlaethol YesCymru.
Yn ôl ICEC a YesCymru, mae cyfreithiau hynafol yn cael eu defnyddio i gyfiawnhau ac elwa ar berchnogaeth tir ac adnoddau gwledydd sydd wedi’u meddiannu o fewn y wladwriaeth.
Yn sgil hyn, mae ICEC a YesCymru’n credu bod yna elwa anghyfreithiol, fandaliaeth ddiwylliannol ac ieithyddol, tanseilio hawliau democrataidd, a cham-drin yr amgylchedd.
Yn ôl ICEC a YesCymru, mae llawer o broblemau hanesyddol Ewrop yn tarddu o’r ffaith fod gwladwriaethau yn gwrthod diwygio anghyfiawnderau gwleidyddol hanesyddol sydd wedi llifo i mewn i’r cyfnod modern.
Mae ICEC a YesCymru yn dweud mai enghraifft dda o hyn yn achos Cymru yw Ystâd y Goron, sydd yn gyfrifol am dynnu biliynau o bunnoedd allan o economi Cymru gan anfon yr arian hwnnw’n syth i drysorlys Llundain.
Mae rhai yn dadlau mai arian a chyfoeth Cymru yw hyn – asedau ddylai fod yn nwylo Llywodraeth Cymru, ac nid yn eiddo’r wladwriaeth Brydeinig.
Yn ôl ICEC a YesCymru, does dim modd cyfiawnhau goresgyniad 1282, na chyfeddiannu Cymru yn 1536 i fanteisio ar gyfoeth Cymru.
ICEC Cymru
Yn ôl Iestyn ap Rhobert o ICEC Cymru, mae bod yn rhan o ICEC yn gam hanesyddol yn ymgyrch annibyniaeth Cymru, ac yn gyfle i weithio â gwledydd eraill yn Ewrop.
“Mae cael bod yn rhan o ICEC yn cryfhau rhoi llais i ymgyrch annibyniaeth Cymru yn Ewrop,” meddai wrth golwg360.
Yn debyg i Lythyr Pennal yn 1406, mae gan Gymru’r hawl i gydweithio â phartneriaid tramor heb ymyrraeth.
“Mae rhyddid i adrodd hanes Cymru a’r mudiad annibyniaeth i gynulleidfaoedd rhyngwladol yn hanfodol i feithrin statws i Gymru,” meddai.
“Ers gadael yr Undeb Ewropeaidd yn 2020, mae cynhadledd ICEC ym Mrwsel yn gyfle euraidd i ni gydweithio a phartneriaid ar draws Ewrop.”
Ym marn Iestyn ap Rhobert, mae cynnydd enfawr yn cael ei wneud gan YesCymru o gymharu â mudiadau mewn gwledydd eraill.
“Y peth cyntaf yw’r ffaith fod Cymru am y tro cyntaf wedi ymuno ar grŵp ICEC,” meddai.
“Dyna’r peth mwyaf pwysig.
“Mae’r grŵp ICEC ei hun wedi bodoli ers 2009, felly mae wedi bod yn 14 mlynedd i’r pwynt lle rydym wedi ymuno oherwydd roedd ymgyrchoedd annibyniaeth eisoes yn bodoli yn yr Alban, Catalonia, Fflandrys, Veneto, Gwlad y Basg.
“Dim ond ers 2014 a 2016 y sefydlwyd Yes Cymru.
“Mae ICEC yn gweithio gyda mudiadau annibyniaeth, nid gyda phleidiau gwleidyddol sydd o blaid annibyniaeth.
“Mae hwnna’n bwysig.
“Ymgyrchoedd, nid pleidiau annibyniaeth, sydd yn rhan o ICEC.
“Yn yr ychydig flynyddoedd sydd wedi mynd heibio ers sefydlu YesCymru, mae YesCymru wedi tyfu o nerth i nerth ac rydym llawn cyn gryfed â mudiadau annibyniaeth yn y gwledydd yma.
“Mae progress Cymru’n gyflym tu hwnt.
“Mae arolygon barn yn dangos yng Nghymru bod annibyniaeth ar dwf a bod teyrngarwch i’r wladwriaeth Brydeinig ar drau, felly mae hwnna’n newid mawr hefyd, bod y sawl sy’n cefnogi’r sefyllfa bresennol o fewn y wladwriaeth Brydeinig yn lleihau.
“Rydym yn symud yn gyflym tu hwnt i gymharu gyda’r gwledydd eraill.”
Catalwnia a thu hwnt
Cafodd ymgais Catalwnia i gynnal refferendwm annibyniaeth yn 2017 ei galw’n anghyfansoddiadol gan Lywodraeth Ganolog Sbaen.
Cafodd heddlu arfog a heddlu milwrol eu hanfon i Gatalwnia i ymosod ar bleidleiswyr heddychlon.
Mae ICEC a Yes Cymru yn cwestiynu sut, felly, mae tegwch i bobol Catalwnia os ydyn nhw am wireddu eu hawl i fod yn genedl annibynnol.
Yn ôl ICEC a YesCymru, mae enghreifftiau o annhegwch i’w gweld ym mhobman yn y byd.
Yn ddiweddar yn Ffrainc, roedd ymosodiad ar yr iaith Lydaweg gan Lywodraeth Ffrainc, lle mae’n cael ei ystyried yn ‘anghyfansoddiadol’ i ddefnyddio unrhyw iaith arall ar wahân i Ffrangeg mewn addysg ffurfiol.
Mae pobol Fflandrys yn perthyn i bobol yr Iseldiroedd, ac felly maen nhw am ennill eu hannibyniaeth oddi wrth Wlad Belg.
Mae pobol De Tyrol yn yr Eidal yn Almaenwyr, ond cafodd y tir ei roi i’r Eidalwyr yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Roedd Veneto (Fenis) yn wlad annibynnol tan 1797.
Dydy ICEC ddim yn credu y bydd y problemau hyn yn cael eu datrys nes bod cenhedloedd sydd wedi’u meddiannu yn ennill annibyniaeth oddi wrth wladwriaethau.
All tegwch ddim bodoli yn Ewrop heb gyfiawnder, na chyfiawnder heb ryddid cenhedloedd i fodoli yn rhydd o fygythiadau gan eu cymdogion, meddai’r comisiwn.
Mae pob dirprwyaeth ICEC wedi paratoi ffilm ddogfen sy’n amlinellu sut mae cenhedloedd wedi cael eu hecsbloetio gan eu cymdogion.
Bydd gan bob dirprwyaeth ICEC siaradwyr fydd yn dadlau pam fod yn rhaid i’w cenhedloedd ennill annibyniaeth, a sut mae gweithio ochr yn ochr â’i gilydd yn rhan o’r broses honno i ennill eu rhyddid.
“Bob blwyddyn, mae nifer cynyddol o wleidyddion ledled Ewrop yn gwrando ar lais ICEC,” meddai Anna Arqué o Gatalwnia.
“Yn 2024, mae’n debygol iawn y bydd Comisiwn yr Undeb Ewropeaidd yn edrych ar sut mae’r Undeb Ewropeaidd yn ymateb ac yn rhyngweithio mewn ffordd deg gyda gwledydd sydd wedi’u meddiannu.
“Rydym yn credu, trwy weithio’n agos gyda’n partneriaid, y gallwn herio’r anghyfiawnderau parhaus, a hyrwyddo rhyddid a chyfiawnder i holl genhedloedd a diwylliannau Ewrop.”
“Mae gwlad fel Catalwnia yn mynd trwy lwythi o broblemau ar y foment ers 2017, pan geision nhw gael refferendwm annibyniaeth eu hunain a chaeth ei chwalu gan heddlu milwrol cafodd eu hanfon o ardaloedd eraill o Sbaen.
“Roedd nhw’n curo pobol.
“Roedd nhw’n difa’r papurau pleidleisio a’r blychau pleidleisio.
“Roedd nhw’n bygwth pobol.
“Felly yng Nghatalwnia, mae yna lawer o wrthdaro rhwng y pleidiau gwleidyddol yna sydd o blaid annibyniaeth.
“Mae’r holl sefyllfa yn Sbaen yn ansicr.
“Yn yr Alban, rydym wedi gweld am y tro cyntaf efallai y bydd yr SNP yn colli grym yn fuan.
“Mae pethau yng Nghymru yn cynyddu ac yn symud i’r cyfeiriad cywir oherwydd, yn wahanol i’r gwledydd eraill, does yna ddim un perchennog o’r neges annibyniaeth yng Nghymru.
“Mae YesCymru’n un o sawl mudiad annibyniaeth gwahanol.
“Maen nhw’n gweithio gyda Phlaid Cymru, ar wahân i Blaid Cymru, gyda mudiadau eraill.
“Does neb yn perchnogi annibyniaeth yng Nghymru.
“Mae’n llawer anoddach i distyrbio neu ei danseilio fe.”
Arwain, nid dilyn
Yn hytrach na dilyn esiampl gwledydd eraill, mae Iestyn ap Rhobert yn credu y dylai Cymru arwain neu gydweithio â gwledydd eraill er mwyn ennill annibyniaeth.
“Un o’r pethau rwy’ wedi sylweddoli yw fod Cymru ddim gwell na gwaeth na nifer o’r gwledydd eraill,” meddai.
“Mae achos pob gwlad yn wahanol.
“Mae sut mae pob gwlad yn mynd ati, hynny ydy’r gwledydd dwi newydd sôn amdanyn nhw, yn wahanol.
“Mae pob un o’r gwledydd hyn yn mynd ati mewn ffordd wahanol i ymgyrchu dros ei hannibyniaeth – rhai wedi methu a rhai wedi llwyddo yn araf deg.
“Arwain ddylai Cymru ei wneud, nid dilyn, yn fy marn i – neu yn sicr i gydweithio â nhw i weld sut rydym yn gallu gwella ymgyrchoedd annibyniaeth ein gilydd.”
Llythyr Pennal
Yn ôl Iestyn ap Rhobert, mae’r amseroedd wedi newid ers Llythyr Pennal yn 1406 oherwydd mai brenhinoedd oedd yn arwain bryd hynny.
Ond mae nifer o’r gwledydd mawr yn Ewrop bellach yn weriniaethau.
“Yng nghyfnod Glyndŵr, roedd Ewrop yn gyfandir gwahanol iawn,” meddai.
“Brenhinoedd yn hytrach na gwledydd a gwladwriaethau oedd yn bodoli.
“Roedd Llythyr Pennal yn dangos bod cydweithio rhwng cynghreiriaid yn rywbeth oedd yn cael ei annog.
“Yn Ewrop fodern, dyma rydym ni’n trio’i efelychu, ond yn hytrach na mynd at Ffrainc y tro hwn, rydym yn cydweithio efo gwledydd sy’n rhan o wladwriaethau mawr.
“Mae Cymru â [phoblogaeth] o 3.1m, mae’r Alban â rhyw 5m, mae Catalwnia ag 8m, mae Gwlad y Basg yn 3m.
“Maen nhw’n wledydd mawr o fewn gwladwriaethau.
“Rydym i gyd yn Ewropeaid, felly trwy weithio gyda’n gilydd, dyna sut rydym yn mynd ati i newid sut mae gwladwriaethau mawr yn ein gweld ni.”