“Bore da, dw i’n ofni na allwn ni ddim ond cyfathrebu yn Saesneg drwy’r llwyfan yma. Sut alla i eich helpu chi heddiw?”

Dyma’r ateb gafodd Llŷr Gruffydd, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, wrth iddo bostio ar X (Twitter gynt) am agwedd y banc at yr iaith Gymraeg.

“Mwy o sarhad i siaradwyr Cymraeg,” meddai wrth bostio dolen i stori Newyddion S4C am y banc gafodd ei chyhoeddi bythefnos yn ôl – darllenwch stori golwg360 yma.

Cefndir

Roedd y stori’n cyfeirio at y ffaith fod HSBC wedi cael eu cyhuddo o fod yn “amharchus”, ar ôl iddyn nhw ofyn i gwsmer ailanfon neges yn Saesneg, ar ôl iddi yrru neges yn Gymraeg atyn nhw.

Dywedodd Llŷr Gruffydd, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd yn y gogledd, ar y pryd fod hyn yn “esiampl arall” o “ddiystyrwch llwyr” y banc “tuag at siaradwyr Cymraeg”.

Dywedodd aelod o dîm cwsmeriaid y banc nad oedd modd iddyn nhw ddarllen y neges Gymraeg, ac felly nad oedd modd iddyn nhw helpu â’r ymholiad.

Roedd y neges yn cyfeirio at y Deyrnas Unedig, gan awgrymu bod y sawl anfonodd y neges ar ddeall bod y neges wedi dod o’r tu allan.

Daeth hyn yn fuan ar ôl iddyn nhw gyhoeddi eu bod nhw’n dirwyn eu llinell ffôn Gymraeg i ben ym mis Ionawr.

‘Dyw mynnu fod cwsmer yn cyfathrebu efo chi yn Saesneg ddim yn dderbyniol @HSBC_UK!” meddai Llŷr Gruffydd.

Codi gwrychyn eto

Darllenwch ragor

HSBC dan y lach eto am fod yn “amharchus” drwy ofyn am neges yn Saesneg

Dyma “esiampl arall” o “ddiystyrwch llwyr” y banc “tuag at siaradwyr Cymraeg”, yn ôl Llŷr Gruffydd

HSBC: Tridiau i ymateb i alwadau Cymraeg

Cyhuddodd un o bwyllgorau’r Senedd y cwmni o beidio a darparu yn ddigonol ar gyfer cwsmeriaid Cymraeg

HSBC yn wynebu cwestiynau gan un o bwyllgorau’r Senedd

Daw hyn yn dilyn penderfyniad y banc yn ddiweddar i ddirwyn gwasanaeth Cymraeg i ben