Mae dau o bobol wedi’u cyhuddo gan yr heddlu ar ôl i gyrff dau fabi gael eu canfod mewn tŷ ym Mhen-y-bont ar Ogwr bedwar mis ar ddeg yn ôl.

Cafodd yr heddlu eu galw i Faes-y-Felin yn ardal Wildmill ar Dachwedd 26, 2022.

Mae Zilvinas Ledovskis, sy’n 48 oed, ac Egle Zilinskaite, sy’n 30 oed, wedi’u cyhuddo o ddau achos o gelu genedigaeth plentyn a dau achos o atal claddedigaeth gyfreithiol a gweddus.

Bydd y ddau yn mynd gerbron ynadon yng Nghaerdydd ar Chwefror 20.