Mae Vaughan Gething, un o ddau ymgeisydd i olynu Mark Drakeford yn ras arweinyddol Llafur Cymru, wedi dweud na fyddai fyth yn preifateiddio’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol pe bai’n Brif Weinidog.
Mae hefyd yn addo na fyddai gwariant y pen ar ofal iechyd yng Nghymru fyth yn disgyn o dan lefelau gwariant Lloegr.
Daw hyn wrth iddo fe gyhoeddi Cyfamod Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru, sef yr egwyddorion fyddai’n sail i holl bolisïau iechyd Llywodraeth Lafur Cymru yn y dyfodol.
Mae ei weledigaeth hefyd yn cynnwys canolbwyntio ar flaenoriaethau Cymreig a chanlyniadau er mwyn creu Gwasanaeth Iechyd cwbl unigryw i Gymru, ar sail egwyddorion Aneurin Bevan, sylfaenydd y Gwasanaeth Iechyd.
Yn ogystal, mae’n cyfeirio at gyhoeddi cytundeb partneriaeth newydd gyda’r Gwasanaeth Iechyd, cleifion, undebau a llywodraeth leol er mwyn ateb yr heriau o fewn y maes.
Fe wnaeth y sylwadau mewn araith gerbron aelodau’r Blaid Lafur yn Sir Benfro heddiw (dydd Gwener, Ionawr 5), yn dilyn cyfres o ymweliadau ledled y sir honno a Chaerfyrddin.
Canolbwyntio ar lais cleifion
Dywed Vaughan Gething, oedd yn Weinidog Iechyd rhwng 2016 a 2021, fod y model yn canolbwyntio ar gyflawni canlyniadau iechyd “sydd o bwys i bobol”.
“Mae’n canolbwyntio fel laser ar ganlyniadau a llais cleifion,” meddai.
“Mae ehangu’r model hwn ar draws ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn addas ar gyfer anghenion Cymru, a bydd yn cefnogi’r gwaith brys o leihau rhestrau aros a helpu pobol i reoli cyflyrau cronig yn well.”
Fe wnaeth e rannu ei brofiadau personol o’r Gwasanaeth Iechyd hefyd, a hynny o safbwynt claf.
“Yn y flwyddyn ar ôl fy Lefel A, datblygais glefyd yr arennau o’r enw syndrom neffrotig,” meddai.
“Am ychydig, doedd dim newyddion da ar y gorwel.
“Yn 19 oed, dywedodd fy rhieni wrtha i y bydden nhw’n rhoi un o’u harennau eu hunain i ‘nghadw i’n fyw ac yn iach.
“Dim ond pan wnaeth cyffur roedd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn ei dreialu ar gyfer fy nghyflwr sefydlogi fy nghyflwr y gallwn i edrych i’r dyfodol gyda theimlad o optimistiaeth unwaith eto.
“Fel i gynifer ohonom, roedd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yno i mi pan oedd ei angen arna i, ac rwy’n addo y bydda i bob amser, bob amser, yno i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.”
Mae disgwyl y bydd polisïau iechyd a gofal cymdeithasol pellach yn cael eu cyhoeddi gan yr ymgeisydd dros yr wythnosau nesaf.
Beirniadu addewid ar wariant y pen
Wrth ymateb i’w addewid ynghylch gwariant y pen ar ofal iechyd, mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, wedi cyhuddo Vaughan Gething o fod yn “hollol anymwybodol o’r hyn sydd ei angen i drwsio’r Gwasanaeth Iechyd mae e a’i gydweithwyr wedi’i dorri”.
“Er gwaethaf derbyn cyllid ychwanegol ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd Gwladol gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, mae gweinidogion Llafur yn dewis gwario’r arian hwnnw ar brosiectau gwagedd, tra bod staff iechyd a chleifion yn ymgiprys â gwasanaeth sy’n chwalu,” meddai.