Bydd banc HSBC yn wynebu cwestiynau gan y Senedd yr wythnos hon, yn dilyn eu penderfyniad dadleuol i ddirwyn gwasanaeth Cymraeg i ben.
Daeth cadarnhad yn ddiweddar fod y llinell Gymraeg yn dod i ben, gwta ddwy flynedd ar ôl i’r banc lansio menter i annog eu staff i ddysgu’r Gymraeg, ac i sicrhau bod eu deunyddiau ac arwyddion ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg hefyd.
Roedden nhw’n dweud bryd hynny eu bod nhw’n “falch eithriadol” o helpu i gynnal yr iaith drwy gynnig gwasanaethau Cymraeg i gwsmeriaid.
Maen nhw’n dweud mai 22 o alwadau Cymraeg y dydd maen nhw’n eu derbyn erbyn hyn, o gymharu â 18,000 yn Saesneg.
Unwaith neu ddwy y flwyddyn mae 73% o bobol yn ffonio’r llinell Gymraeg, meddai’r banc.
Bydd HSBC yn anfon Jose Carvalho, eu Pennaeth Cyfoeth a Bancio Personol, i’r cyfarfod yn y Senedd ddydd Mercher (Tachwedd 29).
Bydd modd gwylio’r sesiwn yn fyw ar www.senedd.tv