Mae ymchwil newydd sydd wedi’i chyhoeddi heddiw (dydd Mawrth, Tachwedd 28) yn datgelu bod £14bn – neu 55% o’r buddsoddiadau sydd wedi’u gwneud gan wyth cronfa pensiwn cyhoeddus Cymru – mewn perygl o ariannu datgoedwigo.
Dan arweiniad Maint Cymru a Global Canopy, mae’r ymchwil yn archwilio sut mae’r wyth Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yng Nghymru, o dan ymbarél Partneriaeth Pensiwn Cymru, yn agored i’r risg o ddatgoedwigo trwy eu gweithgareddau cyllido, fel buddsoddiadau a daliadau.
Mae o leiaf £1 o bob £10 o fuddsoddiadau Partneriaeth Pensiwn Cymru mewn perygl uchel o gyllido datgoedwigo.
Mae 45% ychwanegol o’r buddsoddiadau mewn cleientiaid neu ddaliadau sy’n debygol o wynebu’r risg o ddatgoedwigo.
‘Argyfwng y gellir ei ddatrys’
“Yn fyd-eang, mae cronfeydd pensiwn yn gyfrifol am gyllido datgoedwigo trofannol trwy eu buddsoddiadau,” meddai Emma Thomson, arweinydd Global Canopy Forest 500.
“Nid yw hyn yn wahanol yng Nghymru, lle mae cyfran sylweddol o’r £22bn sydd wedi cael ei fuddsoddi gan wyth cronfa bensiwn sirol yng Nghymru mewn perygl o gyllido gweithgareddau sy’n dinistrio coedwigoedd trofannol.
“Ond mae datgoedwigo yn argyfwng y gellir ei ddatrys, ac mae’r data, yr offer a’r arweiniad yn bodoli i helpu cronfeydd pensiwn Cymru i roi’r gorau i ariannu dinistrio natur cyn ei bod hi’n rhy hwyr.”
Mae coedwigoedd yn hanfodol i gynnal bioamrywiaeth, ac maen nhw’n gartref i 80% o fywyd y byd ar dir.
Er bod rhai arwyddion cadarnhaol o gynnydd wrth fynd i’r afael â datgoedwigo, cafodd ardal o goedwig fwy nag 11 gwaith maint Cymru ei cholli y llynedd.
Mae hyn yn sbarduno newid yn yr hinsawdd a cholli natur, ac yn arwain at effeithiau cymdeithasol eang ar draws y byd, gan gynnwys llafur plant a cham-drin hawliau pobol frodorol.
“Rydym yn galw ar Gymru a gwledydd ar draws y byd i weithredu i sicrhau nad yw buddsoddiadau mewn cronfeydd pensiwn yn arwain at ddinistrio ein cartref yng nghoedwig yr Iwerydd,” meddai llefarydd ar ran y gymuned Guarani ym Mrasil.
“Mae’n rhaid i ni gredu y gall y byd fod yn wahanol.”
Datgarboneiddio erbyn 2030
“Rydym yn annog awdurdodau lleol ar draws Cymru i ymgysylltu â’n hadroddiad a chymryd camau i fod yn gyfrifol yn fyd-eang, a chyrraedd eu targedau datgarboneiddio erbyn 2030,” meddai Barbara Davies-Quy, Dirprwy Gyfarwyddwr Maint Cymru.
“Mae angen i ni weithio gyda’n gilydd i sicrhau bod pensiynau cyhoeddus yn darparu ar gyfer ein dyfodol, ac nad ydynt yn peryglu’r dyfodol hwnnw.”
Mae canllawiau ychwanegol ar gael i gronfeydd pensiwn sy’n ceisio dileu datgoedwigo, trawsnewid, a cham-drin hawliau dynol cysylltiedig o’u portffolios trwy Cyllid Dim Datgoedwigo.