Mae Comisiynydd Plant Cymru wedi cyhoeddi adroddiad yn galw am ymateb cryfach i hiliaeth mewn ysgolion.
Yn ôl yr adroddiad Cymerwch y peth o ddifri: Profiadau plant o hiliaeth mewn ysgolion uwchradd gan Rocio Cifuentes, mae plant a phobol ifanc yn dal i wynebu hiliaeth mewn ysgolion uwchradd, ond prin fod gan neb ohonyn nhw ffydd y bydd y mater yn cael sylw.
Mae hefyd yn galw am fwy o hyfforddiant a chefnogaeth mewn ysgolion, a data cenedlaethol ynghylch achosion o hiliaeth.
Hiliaeth wedi’i normaleiddio
Cafodd 170 o blant lais yn yr ymchwil cyn llunio’r adroddiad, ynghyd ag athrawon, arweinwyr ysgolion a staff y sector cyhoeddus a’r trydydd sector.
Soniodd nifer fod hiliaeth yn cael ei normaleiddio, a’r ffaith nad oes digon o sylw yn cael ei roi i achosion fel eu bod nhw’n cael eu datrys.
Ymhlith yr achosion o hiliaeth roedd:
- rhywun yn dweud wrth ferch Foslemaidd fod ganddi fom yn ei sgarff
- plant yn cael eu galw’n frawychwyr
- defnydd o’r gair N***** yn cael ei normaleiddio
- merch yn cael ei galw’n fwnci ac yn cotton-picker
- plentyn yn dweud wrth blentyn arall nad oedden nhw eisiau eistedd yn eu hymyl oherwydd lliw eu croen
Dywed Comisiynydd Plant Cymru fod disgyblion yn awyddus i weld athrawon yn gwneud mwy i fynd i’r afael â’r sefyllfa a’i gymryd o ddifri, a chosb addas ar gyfer y rhai sy’n ymddwyn yn hiliol.
Does “dim byd yn cael ei wneud”, yn ôl rhai, tra bod eraill yn galw am well systemau er mwyn adrodd am achosion, a mwy o gyfathrebu gan ysgolion ynghylch eu prosesau.
Ond mae athrawon hefyd yn adrodd am ddiffyg hyfforddiant a chefnogaeth dros gyfnod o ddegawdau, a diffyg canllawiau gan yr awdurdodau.
Mae rhai yn dweud eu bod nhw’n poeni am ddweud y peth anghywir ac yn “anghyfforddus” wrth siarad am hiliaeth, gan gynnwys y defnydd o rai llyfrau a thestunau sy’n trafod hiliaeth.
Argymhellion
Mae’r Comisiynydd wedi gwneud 22 o argymhellion, gan gynnwys:
- yr angen i Lywodraeth Cymru egluro sut ddylid cofnodi achosion o hiliaeth ac ymateb iddyn nhw
- adolygu rhestr testunau’r maes llafur mewn ysgolion
- hyfforddiant gorfodol i bob arweinydd addysg ar hiliaeth
- polisïau cliriach ar gyfer ymateb i hiliaeth, gan gynnwys systemau adborth
Dywed y Comisiynydd fod y lleisiau sydd wedi ymateb “wedi rhoi mewnwelediad cryf” i brofiadau plant a phobol ifanc o hiliaeth, a sut maen nhw “bron yn rhan normal o fywyd iddyn nhw”.
“Rydyn ni hefyd wedi clywed pam nad yw dysgwyr efallai yn adrodd am achosion o hiliaeth, gan gynnwys normaleiddio hiliaeth, ofn y bydd y broses yn emosiynol llethol ac yn feichus, a dydyn nhw ddim yn disgwyl i lawer ddigwydd beth bynnag,” meddai Rocio Cifuentes, Comisiynydd Plant Cymru.
“Mae hyn yn golygu, ar y cyfan, fod y dadansoddiad cost-budd yn golygu nad yw fel arfer yn cael ei ystyried yn werthchweil adrodd am achosion o hiliaeth.
“Mae hyn yn golygu mai pigyn rhewfryn mawr iawn yn unig yw’r achosion hynny sy’n cael eu hadrodd.
“Ar y cyfan, adroddodd athrawon am deimlo heb offer ac yn ddi-hyder wrth ymateb i hiliaeth.
“Bydden nhw wir yn hoffi arweiniad ymarferol, mwy clir, yn ogystal â chefnogaeth barhaus o ran sut ddylen nhw ymateb i’r mater hwn sy’n esblygu.
“Gan blant a phobol ifanc, clywson ni alwadau cryf ar y cyfan ar i ysgolion gymryd hiliaeth yn fwy difrifol, am fwy o hyfforddiant i athrawon gael deall hiliaeth ac amrywiaeth, ac i ysgolion wneud mwy i addysgu pob plentyn a pherson ifanc ynghylch hiliaeth i’w hatal rhag digwydd yn y lle cyntaf.”
‘Adroddiad gwerthfawr’
Yn ôl Laura Doel, Ysgrifennydd Cyffredinol a Chyfarwyddwr undeb athrawon NAHT, mae hwn yn “adroddiad gwerthfawr”.
“Dylai pawb sy’n gweithio, yn beirniadu neu’n creu polisi ar gyfer addysg uwchradd yng Nghymru dalu sylw i’r casgliadau hyn,” meddai.
“Fel dywed yr adroddiad, gall addysg chwarae rhan hanfodol wrth fynd i’r afael â gwahaniaethu, ac mae gan ysgolion ran unigryw a hanfodol i’w chwarae.
“Trwy addysg y gallwn ni ddechrau adeiladu cymdeithas wirioneddol gynhwysol, gan newid meddyliau a herio rhagfarnau, hybu cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, a sicrhau bod disgyblion yn deall eu hawliau a’u cyfrifoldebau fel dinasyddion ifainc mewn cenedl amlddiwylliannol fel y Deyrnas Unedig.
“Rydym yn croesawu argymhelliad yr adroddiad fod angen hyffroddiant a chefnogaeth ar staff addysg o ran sut i fabwysiadu dull gwrth-hiliol.
“Mae NAHT yn cytuno’n llwyr â hyn, ac yn parhau i alw am hyfforddiant gwrth-hiliaeth gorfodol i holl staff ysgolion.
“Rydyn ni eisiau i bawb sy’n gweithio mewn ysgolion deimlo eu bod nhw wedi’u grymuso i fynd i’r afael â hiliaeth mewn addysg.
“Mae’n bwysig o ran iechyd, llesiant a dyfodol disgyblion, staff ac arweinwyr ysgolion, yn ogystal â’r cymunedau maen nhw’n eu gwasanaethu.”