Mae tybaco a fêps anghyfreithlon yn hynod beryglus, yn ôl Cyfarwyddwr Gwella Iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Daw sylwadau Dr Julie Bishop yn dilyn cyrchoedd ar dri eiddo yn Sir Conwy ar Dachwedd 23, yn targedu pobol sy’n gwerthu nwyddau anghyfreithlon.

Yn dilyn nifer o gwynion, mae swyddogion Safonau Masnach Conwy wedi cefnogi swyddogion Ymgyrch Cece, Wagtail UK a Gorfodaeth Mewnfudo, ac wedi archwilio’r tri eiddo.

Byddai’r eitemau gafodd eu symud o’r eiddo’n peri risg amlwg i iechyd y cyhoedd, gan nad yw’n glir beth yn union sydd y tu fewn i’r cynnyrch.

Mae gwerthu’r eitemau hyn hefyd yn rhoi busnesau sy’n gwerthu cynnyrch cyfreithlon mewn perygl, am eu bod nhw’n colli busnes i’r siopau diegwyddor hyn, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Niwed

Yn ôl Dr Julie Bishop, Cyfarwyddwr Gwella Iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae tybaco a fêps anghyfreithlon dipyn mwy peryglus na rhai mae modd eu prynu o’r siop, yn rhatach, ac yn haws i bobol ifanc gael gafael arnyn nhw.

“Yn aml, nid yw tybaco a fêps anghyfreithlon yn cydymffurfio â rheolaethau llym gafodd eu rhoi ar waith i liniaru eu niwed, ac felly maen nhw’n cael effaith niweidiol ar iechyd a llesiant sy’n fwy na’r risg gaiff ei achosi eisoes gan eu mathau cyfreithlon,” meddai wrth golwg360.

“Mae tybaco a fêps anghyfreithlon hefyd ar gael yn haws i’w prynu gan blant a phobol ifanc.

“Mae eu cost isel, sy’n bosibl drwy osgoi treth, yn gwneud tybaco ar gael i bobol na fydden nhw fel arall efallai’n gallu ei fforddio, sy’n cael effaith benodol ar gymunedau ag amddifadedd uwch, a gall danseilio ymdrechion i annog llai o ddefnydd o’r cynhyrchion hyn.

“Mae’r deunydd pacio yn ddangosydd da o ran a yw tybaco yn anghyfreithlon.

“Os nad yw’r deunydd pacio yn Saesneg, ac os nad yw’n wyrdd plaen ac mae ganddo ddiffyg rhybuddion iechyd, mae hyn fel arfer yn dangos ei fod yn anghyfreithlon.

“Gallwch roi gwybod am unrhyw gynhyrchion yr ydych yn amau eu bod yn anghyfreithlon yn www.noifs-nobutts.co.uk/cy/.”

Peryglon

Mae Safonau Masnach Cymru hefyd yn rhybuddio am y peryglon.

“Mae ysmygu’n lladd dros 5,000 o bobl yng Nghymru bob blwyddyn a bydd bron i hanner yr holl ysmygwyr hirdymor yn marw o ganlyniad uniongyrchol i’w harferiad,” meddai llefarydd.

“Tybaco anghyfreithlon yw sigaréts neu dybaco rholio sydd wedi’u smyglo a lle nad oes unrhyw dollau wedi’u talu arno.

“Mae hyn yn golygu ei fod yn gallu cael ei werthu am lai na hanner pris tybaco cyfreithlon yn yr economi anffurfiol, sy’n creu problem sylweddol yn ein cymunedau.

“Mae’n ei gwneud yn llawer haws i blant gael gafael ar dybaco a fêps, ac yn arwain at ddibyniaeth am oes ac yn ei gwneud yn llawer mwy anodd i ysmygwyr presennol roi’r gorau iddi.

“Mae canlyniadau’r cyrchoedd yma’n dangos pa mor effeithiol mae gweithrediadau ar y cyd yn gallu bod.

“Mae tybaco anghyfreithlon yn cael ei ddosbarthu a’i gyflenwi drwy rwydweithiau trosedd trefnedig – mae hyn yn aml yn gysylltiedig â gweithgarwch troseddol arall ac mae’n dod â throsedd i’n cymunedau lleol.”