Cafodd 1.1m yn llai o bobol ledled y Deyrnas Unedig fanteision iechyd o dreulio amser ym myd natur yn 2022 o’i gymharu â dwy flynedd ynghynt, yn ôl ystadegau newydd.
Mae nifer yr ymweliadau bellach yn ôl i lefelau 2019, ac yn sylweddol is na’r uchafbwynt yn ystod y pandemig yn 2020, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Fe wnaeth pobol ledled y Deyrnas Unedig fynd allan i hamddena 855m o weithiau’n llai yn 2022 nag yn 2020.
Arweiniodd hyn at dreulio 567m yn llai o oriau yn ystod ymweliadau ym myd natur ac yn teithio i’r ymweliadau hyn dros y cyfnod – sy’n cyfateb i tua deng awr y pen yn y Deyrnas Unedig ar gyfartaledd.
Mae’r duedd ar i lawr ers 2020, sy’n awgrymu mai cynnydd dros dro ddigwyddodd yn ystod Covid.
Iechyd a lles
Gall treulio amser ym myd natur gael effaith gadarnhaol ar iechyd a lles, gydag astudiaethau’n dangos cysylltiadau rhwng yr amser sy’n cael ei dreulio mewn coedwigoedd a lefelau is o straen.
Fe wnaeth un astudiaeth ganfod fod pobol sy’n treulio dwy awr neu fwy’r wythnos ym myd natur yn fwy tebygol o ddweud eu bod nhw mewn iechyd da neu dda iawn.
Yn ôl adroddiad diweddar a gyhoeddwyd gan The Wildlife Trusts, gall “rhagnodi gwyrdd”, lle mae pobol yn cael eu cyfeirio at raglenni sy’n seiliedig ar natur gan weithwyr iechyd proffesiynol, wella iechyd corfforol a meddyliol.
“Dangoswyd [fod treulio amser ym myd natur] yn mynd i’r afael yn arbennig ag iselder ysgafn i gymedrol, teimladau o straen a phryder,” meddai Dom Higgins, Pennaeth Iechyd ac Addysg The Wildlife Trusts.
“O’m profiad fy hun, mae bod allan mewn lleoedd llawn bywyd gwyllt yn gwneud i mi deimlo’n fyw.
“Mae pobol wrth eu boddau yn bod yn agos at natur ac mae arolygon barn yn dangos bod mannau gwyrdd lleol yn bwysig i feithrin balchder yng nghymunedau pobol.”
Teithio llesol yn gyfle i fod ym myd natur
Un sy’n credu y gallai teithio llesol i’r gweithle neu’r ysgol fod o fudd wrth sicrhau bod pobol yn treulio mwy o amser ym myd natur yw Dafydd Trystan, Cadeirydd Bwrdd Teithio Llesol Cymru.
“Wrth i bobol gerdded neu seiclo i’r gwaith neu i’r ysgol neu’r siopau, maen nhw’n gweld byd natur ac yn ymwneud â byd natur,” meddai wrth golwg360.
“Felly mae yna gyfle yn fan yna i gysylltu’r weithred o deithio at bwrpas penodol gyda bod ym myd natur.
“Dw i’n un o’r bobol yna sy’n ddigon ffodus bod modd cerdded i’r gwaith trwy Barc Biwt yng nghanol Caerdydd, sy’n siwrne hyfryd iawn, ac mae gweld wiwerod neu adar neu’r planhigion, yn enwedig yn yr haf, yn braf.
“Mae’n bont rhwng adref a’r gwaith wedyn hefyd.
“Dw i’n credu fod pobol sy’n teithio ar droed neu feic i’r gwaith yn cael buddion mas o fod ym myd natur.”
Mae ffyrdd syml o gymell pobol i deithio i’r gwaith ar droed neu ar feic, yn ôl Dafydd Trystan.
“Un o’r pethau symlaf mae modd eu gwneud i gymell pobol i gerdded ychydig mwy yw rhoi meinciau mewn.
“Os oes rhywle i gael hoe fach, yn rhywle braf, diogel, efallai’n edrych mas dros afon neu’r coed neu rywbeth felly, mae’n ffordd braf o wneud e.
“Felly dyw teithiau llesol ddim o reidrwydd yn gorfod bod am deithio pellteroedd mawr.
“Ond mae’r pethau syml yna’n gallu gwneud gwahaniaeth mawr i ba mor actif yw pobol a pha mor hir maen nhw’n cadw’n actif.
“Mater o feddwl sut ydyn ni’n cefnogi pobol i wneud y defnydd gorau a mwynhau byd natur ydy o.”