Mae Cyngor Sir Rhondda Cynon Taf yn gofyn i bobol am eu barn am gynlluniau i godi tâl ar gyfer y gofal plant sy’n cael ei ddarparu mewn clybiau brecwast yn y sir.

Mae’r Cyngor yn ystyried cyflwyno tâl o £1 y dydd ar gyfer y gofal plant sy’n cael ei ddarparu mewn ysgolion cynradd ac ysgolion anghenion arbennig yn y sir cyn y clybiau brecwast rhad ac am ddim.

Dan y cynigion, bydden nhw’n parhau i ddarparu’r clybiau brecwast eu hunain yn rhad ac am ddim, a’r rheiny fel arfer yn rhedeg rhwng 8.30-9 bob bore.

Ymgynghoriad

Mae’r Cabinet wedi cytuno i ymgynghori ar gyflwyno tâl ar gyfer elfen ddisgresiwn y ddarpariaeth gofal plant, sydd fel arfer yn cael ei gynnig rhwng 8-8.30yb cyn i’r brecwast am ddim gael ei ddarparu.

Y cynnig yw cyflwyno ffi o £1 bob dydd (neu £60 am dymor cyfan) ar gyfer yr hanner awr ychwanegol o ofal plant sy’n cael ei gynnig ar hyn o bryd.

Byddai plant sy’n gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim yn cael eu heithrio o unrhyw dâl o dan y cynnig, ac mae’r Cyngor yn dweud y byddai’r incwm sy’n cael ei gynhyrchu’n cael ei ailfuddsoddi yn yr ysgol er mwyn lleddfu pwysau costau.

Dywed y Cyngor na fyddai’r cynigion ar gyfer gofal plant cyn y diwrnod ysgol yn cael unrhyw effaith ar fynediad disgyblion at glybiau brecwast a brecwast maethlon rhad ac am ddim, fydd yn dal ar gael i bob disgybl o oed meithrin hyd at Flwyddyn 6 yn ystod y cyfnod o 30 munud cyn i’r ysgol ddechrau.

Yn dilyn cydsyniad gan y Cabinet ddydd Llun, Tachwedd 20, bydd ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynnig yn rhedeg am chwe wythnos rhwng Tachwedd 27 a Ionawr 8, a phe bai’n cael ei gytuno gallai’r newid gael ei gyflwyno o fis Ebrill.

Bydd yr ymgynghoriad hefyd yn ceisio barn pobol am ostyngiadau posib eraill i’r tâl o £1 – megis teuluoedd sydd â mwy nag un plentyn yn defnyddio’r ddarpariaeth.

Dywed adroddiad y Cabinet y gallai’r cam gynhyrchu incwm blynyddol dros flwyddyn gyfan o ryw £495,000.

Ymateb y Cyngor

“Mae’n bwysig nodi na fydd y cynigion gofal plant cyn diwrnod ysgol yn cael unrhyw effaith ar fynediad disgyblion at glybiau brecwast, fydd yn dal ar gael i bob disgybl o oedran Meithrin hyd at Flwyddyn 6 yn ystod y cyfnod o 30 munud cyn i’r ysgol ddechrau,” meddai Paul Mee, Prif Weithredwr y Cyngor.

“Mae’r ffi arfaethedig o £1 yn ymwneud â chyfnod o ofal plant sy’n cael ei gynnig gan rai ysgolion cyn i’r ysgol ddechrau, a byddai’r cynigion yn ffurfioli hyn yn ystod cyfnod o 30 munud cyn y clwb brecwast.

“Mae pedwar cyngor arall yng Nghymru eisoes yn codi tâl ar gyfer gwasanaeth tebyg, ac mae eraill yn ystyried gwneud hynny ar hyn o bryd.”

Dywed y Cynghorydd Rhys Lewis, yr Aelod Cabinet dros Addysg, fod y Cyngor yn cydnabod gwerth sylweddol a phoblogrwydd clybiau brecwast, ond fod angen adolygu’r holl feysydd lle maen nhw’n darparu gwasanaeth y tu allan i’w dyletswyddau statudol, ac fe soniodd am y pwysau ariannol sylweddol ar y Cyngor gan fod y galw am glybiau brecwast, a’u cost, wedi cynyddu’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf.

Ychwanega fod y gost o £1 yn cymharu’n ffafriol â’r sector preifat, ac mae’n croesawu’r ffaith y bydd yr incwm sy’n cael ei gynhyrchu’n cael ei ailfuddsoddi yn yr ysgol.

Dywed y Cynghorydd Andrew Morgan, arweinydd y Cyngor, fod cynghorau eraill yn edrych ar hyn, gan ddweud y byddai’n codi oddeutu £500,000 ar gyfer ysgolion sy’n wynebu pwysau cyllidebol.