Mae cynghorydd newydd ward Aberystwyth Penparcau ar Gyngor Sir Ceredigion yn dweud ei fod yn awyddus i flaenoriaethu tai, gwasanaethau bws a gofal cymdeithasol, gan sicrhau bod lle i gynnal dathliad blynyddol o’r pentref hefyd.
Wrth ymgeisio, dywedodd Shelley Childs, sy’n cynrychioli Plaid Cymru, ei fod yn sefyll dros “degwch, cydraddoldeb ac ymgysylltu”.
Cafodd ei ethol yn dilyn is-etholiad ar Dachwedd 16.
Daeth y swydd yn wag yn dilyn ymddiswyddiad y Cyn-gynghorydd Steve Davies ym mis Hydref.
Pleidleisiodd 25.24% o drigolion y ward yn yr is-etholiad, ac fe enillodd Shelley Childs 37% o’r bleidlais.
Gwneud gwahaniaeth
“Rwy’n byw yn y pentref, ac felly byddaf bob amser wrth law i helpu a chynorthwyo gydag anghenion trigolion ynglŷn â materion y Cyngor,” meddai Shelley Childs wrth golwg360.
“Byddaf yn pwyso am gymaint o gefnogaeth i’n sector gwirfoddol [â phosib], i geisio cael mwy o wirfoddolwyr yn ôl i feysydd fel gofal cymdeithasol a chymunedol.
“Byddaf yn defnyddio fy nylanwad fel Cynghorydd i weithio gyda’r sefydliadau tai allanol i geisio sicrhau bod ymatebion ar gyfer materion cynnal a chadw yn cael sylw mewn modd amserol, ac i sicrhau bod llais fy ward yn cael ei glywed wrth fynd i’r afael â’r angen am fwy o wasanaethau bws.
“Hefyd, dw i eisiau siarad â thrigolion am rai syniadau sydd gennyf ar gyfer dathliad blynyddol o’r pentref.
“Roedd gen i lawer o farn wrth ganfasio, ac felly mae angen i mi symud y rhain ymlaen, a nawr gweld pethau o safbwynt y cynghorau dros yr wythnosau nesaf, a cheisio dod o hyd i ateb i lawer o’r materion gafodd eu cyflwyno i mi.
“Mae pob Awdurdod Lleol o dan straen ariannol enfawr, ond rwy’n gobeithio sicrhau bod Ceredigion a Phenparcau yn arbennig ar flaen y ciw am unrhyw gymorth ychwanegol y gallwn ei gael yn y dyfodol.”
‘Balch iawn’
Mae Shelley Childs yn dweud ei fod yn “falch iawn” o gynrychioli’r ardal lle cafodd ei fagu, ac mae’n edrych ymlaen at gynorthwyo trigolion Penparcau sydd wedi rhoi eu hamser i wrando arno, meddai.
“Digwyddodd y cyfan dros gyfnod eithaf byr.
“Pan gafodd yr is-etholiad ei gyhoeddi, dim ond ffenestr ymgyrchu tua thair wythnos a hanner oedd, felly doedd dim amser i feddwl unwaith i mi wneud y penderfyniad i dderbyn gwahoddiad Plaid Cymru i fod yn ymgeisydd iddyn nhw.
“Symudodd pethau’n gyflym, a gwnaethon ni ganfasio bron y cyfan o’r ward, ac rwy’n falch o ystyried fy mod hefyd yn gweithio’n llawn amser.
“Roedd yn wych ailymweld â llawer o’r strydoedd y cefais fy magu ynddyn nhw, a gweld cymaint o’r bobol rwy’n eu cofio o fy mhlentyndod.
“Fe wnes i gyfarfod â chymaint o drigolion yn gyffredinol, a rhoddodd y rhan fwyaf ohonyn nhw eu hamser i mi ar nosweithiau oer y gaeaf ar stepen eu drws.
“Mae’n ymddangos bod y gwaith caled wedi talu ar ei ganfed, a chefais fy ethol yn erbyn rhywfaint o wrthwynebiad chwyrn.
“Rwy’n hynod o falch o gynrychioli fy mhentref ar lefel sirol, ac er ei fod yn newydd iawn i mi, yn dod i mewn o yrfa yn y sector preifat, rwy’n hyderus bod gennyf y profiad i gynorthwyo trigolion Penparcau a hefyd Sir Ceredigion yn brwydro’n galed am well safon byw yn y cyfnod anodd iawn hwn.”