Mae Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, yn dweud ei bod hi’n “fraint” cael ymuno â digwyddiad dros y penwythnos i nodi 90 mlynedd ers yr Holodomor, neu hil-laddiad Wcreiniaid gan yr Undeb Sofietaidd yn 1933.

Nod y weithred gan yr Undeb Sofietaidd oedd rhoi terfyn ar wrthwynebiad Wcreiniaid i’r gyfundref ac ymdrechion i sefydlu Wcráin yn wlad annibynnol.

Roedd yr ymgyrch gan ffermwyr Wcreinaidd yn cael ei hystyried yn fygythiad i ddyfodol yr Undeb Sofietaidd, wrth iddyn nhw feithrin ymdeimlad o hunaniaeth genedlaethol.

Erbyn 2006, roedd y weithred gan Stalin ac arweinwyr eraill yn cael ei hystyried yn hil-laddiad, ac fe gafodd hynny ei gadarnhau gan y Llys Apêl yn Kyiv yn 2010.

Cafodd miliynau o bobol eu lladd rhwng 1932 a 1933, a hynny’n bennaf mewn ardaloedd lle’r oedd trwch y boblogaeth yn Wcreiniaid – gan gynnwys y Kuban, Gogledd Caucasus, Volga isaf a Kazakhstan.