Mae Nigel Owens, y cyn-ddyfarnwr rygbi rhyngwladol sydd bellach yn ffermwr, wedi’i benodi’n Brif Swyddog Caws y cwmni Dragon, yn dilyn taith o amgylch ei hufenfa.

Aeth Nigel Owens, sydd bellach yn sylwebydd hefyd, draw i Hufenfa De Arfon yn Chwilog ger Pwllheli, er mwyn teithio’r safle a lansio cystadleuaeth i ennill cyflenwad blwyddyn o gaws Dragon i deulu cyfan.

Mae’r hufenfa, sy’n gwmni cydweithredol sy’n eiddo i ffermwyr – gyda’i haelodaeth o bob rhan o Gymru yn cyflenwi’r llaeth – yn cynhyrchu’r caws Dragon Wedi’i Wneud â Llaw ar y safle, cyn aeddfedu’r caws yn ddwfn yn yr ogofâu caws yng Ngheudyllau Llechi ger Llanfair.

Ers ymddeol o fod yn ddyfarnwr rygbi fis Rhagfyr 2020, mae Nigel Owens i’w weld ar ei fferm ger Pontyberem yn Sir Gaerfyrddin gyda’i fuches o wartheg Henffordd, ac mae’n gefnogwr brwd o’r diwydiant amaethyddol.

Cafodd o daith lawn o amgylch y ffatri, a chyfle i flasu caws Dragon Wedi’i Wneud â Llaw.

‘Gwych gweld busnes ffermio Cymreig yn ffynnu’

Wrth lansio’r gystadleuaeth ddigidol i ennill cyflenwad blwyddyn o’r caws i deulu cyfan, dywed Nigel Owens ei bod yn wych gweld busnes Cymreig yn ffynnu.

“Roedd yn wych gweld â’m llygaid fy hun sut mae caws Dragon Wedi’i Wneud â Llaw yn cael ei wneud, ac yna ei osod o dan y ddaear yn y ceudyllau llechi caws,” meddai.

“Mae ganddo flas gwirioneddol ryfeddol ar ôl bod o dan y ddaear am fisoedd.

“Fy ffefryn yw Cavern Onyx, gan fy mod yn hoff iawn o wisgi Penderyn ac mae hwn wedi’i drwytho ag e.

“Mae’n wych gweld busnes ffermio Cymreig yn ffynnu yng nghalon Cymru, a nawr mae enillydd lwcus yn mynd i dderbyn cyflenwad blwyddyn o’r caws blasus hwn.”

Cefnogi ffermwyr lleol

Bu Nigel Owens hefyd yn ymweld â Siôn Hughes, ffermwr llaeth o’r bedwaredd genhedlaeth yng Nghricieth, fu’n rhannu sut mae’r fenter gydweithredol yn cefnogi ffermwyr lleol.

“Gyda 160 o ffermydd yn cyflenwi Hufenfa De Arfon, mae ein llaeth yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y detholiad Dragon cyfan,” meddai.

“Mae’n wych i ni gan ei fod mor lleol, ac felly’n gynllun busnes cynaliadwy gyda milltiroedd bwyd isel.

“Mae’r holl laeth a ddefnyddir yn dod o Gymru gyda ffermydd yn ne Cymru hefyd yn cyflenwi llaeth.

“Mae’r fenter gydweithredol yn rhan annatod o’r gymuned sy’n cadw swyddi yn yr ardal hon o ogledd Cymru ac rwy’n annog pawb i gefnogi’n lleol a phrynu cynnyrch Dragon yng Nghymru.”

‘Cynnyrch llaeth Cymreig o safon eithriadol’

“Roedd yn wych croesawu Nigel Owens i’r hufenfa a dangos iddo’r gwaith rydyn ni’n ei wneud,” ychwanegodd Pennaeth Gweithrediadau Hufenfa De Arfon, Mark Edward.

“Rydyn ni wedi ymrwymo i gynhyrchu cynnyrch llaeth Cymreig o safon eithriadol o laeth lleol o safon.

“Rydyn ni’n cyflogi 180 o staff, ac mae gennym ni 160 o ffermwyr llaeth.

“Rydyn ni’n falch o’r hyn rydyn ni’n ei gynhyrchu yma, a nawr gallwch ddod o hyd i’n detholiad Dragon Wedi’i Wneud â Llaw mewn nifer o’r cadwyni archfarchnadoedd mwyaf adnabyddus ledled Cymru yn ogystal â delis a siopau annibynnol.

“Os hoffech ennill cyflenwad blwyddyn i deulu o’n detholiad Dragon Wedi’i Wneud â Llaw, 250 o becynnau sy’n pwyso 50kg, ewch i’n gwefan i gystadlu.”