Mae ymgyrch newydd i annog pobol i ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob sefyllfa wedi cael ei lansio i nodi deuddeng mlynedd ers cyflwyno Mesur y Gymraeg.

Nod ‘Defnyddia dy Gymraeg’, ymgyrch gan Gomisiynydd y Gymraeg, ydy annog pawb i ddefnyddio’u Cymraeg o ddydd i ddydd.

Pan gafodd Mesur y Gymraeg ei gyflwyno yn 2011, fe arweiniodd at greu swydd y Comisiynydd Iaith.

Fel rhan o’r ymgyrch, mae cyfres o ffilmiau wedi cael eu creu i amlygu’r defnydd o’r Gymraeg mewn gwahanol sefyllfaoedd ac o fewn gwahanol sefydliadau.

Un o’r grwpiau hynny yw clwb rygbi’r Scarlets, a dywed Gareth Williams, un o’r hyfforddwyr, fod y Gymraeg i’w chlywed yno’n naturiol.

“Cymraeg yw iaith gyntaf nifer o’r hyfforddwyr a’r chwaraewyr ac mae’n naturiol felly mai dyna a glywir o gwmpas y cae hyfforddi,” meddai.

“Wrth gwrs, mae’r gamp bellach yn golygu fod nifer o chwaraewyr yma sy’n siarad amrywiaeth o ieithoedd ond maen nhw â diddordeb yn y Gymraeg ac yn y diwylliant ac rydyn ninnau yn ceisio tanlinellu ei phwysigrwydd i ni fel cenedl, fel bod ganddyn nhw well ddealltwriaeth.

“Fel clwb, rydym yn falch o allu cefnogi’r ymgyrch a byddwn yn annog pawb i ddefnyddio eu Cymraeg.”

Sesiwn hyfforddi’r Scarlets

Hybu’r iaith yn y carchar

Yng ngharchar y Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr, mae sicrhau cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn “hollbwysig”, meddai Bethan Chamberlain, cydlynydd y Gymraeg yno.

Fe wnaeth y carchar sefydlu aelwyd er mwyn cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd eleni.

“Mae yna bwyslais yma ar hybu’r iaith a’r diwylliant, a hynny ar gyfer y carcharorion o Gymru a hefyd y rhai o Loegr fel eu bod yn sylweddoli bodolaeth yr iaith a’i phwysigrwydd i Gymru,” meddai Bethan Chamberlain.

“Mae yma nifer sydd wedi derbyn addysg Gymraeg ond wedi mynd allan o’r arfer o’i defnyddio ac yn awyddus i ail gysylltu, eraill sydd yn Gymry Cymraeg ac am gyfathrebu drwy’r iaith a nifer bellach sydd yn awyddus i ddysgu’r iaith gan fod eu plant yn derbyn addysg Gymraeg.

“Mae yna ddiddordeb hefyd ymysg y staff ac rydym yn cynnig y cyfleoedd i unrhyw un ddysgu a defnyddio’r iaith.”

‘Pob agwedd o gymdeithas’

Ers cychwyn yn ei swydd ddechrau’r flwyddyn, mae Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg, yn dweud mai ei hawydd yw gweld a chlywed y Gymraeg yn cael ei defnyddio ym mhob man.

“Er mwyn i iaith fyw ac i oroesi, mae angen iddi gael ei defnyddio ymhob agwedd o gymdeithas,” meddai.

“Dros y deuddeg mis diwethaf rwyf wedi cael y cyfle i ymweld ag amryw o sefydliadau, yn fusnesau, ysgolion, canolfannau cymunedol a charchardai hyd yn oed.

“Roedd yn braf clywed y Gymraeg yn cael ei siarad yn naturiol yn y lleoedd hyn a phobol yn ymfalchïo yn yr iaith.”

Bydd yr ymgyrch yn rhedeg rhwng Tachwedd 27 a Rhagfyr 10.