Mae canran y busnesau yng Nghymru sy’n ennill sgôr hylendid o ‘5’, sef y sgôr uchaf, wedi cynyddu o 44% i 71% dros y degawd diwethaf.

Daw’r cyhoeddiad hwn ddeng mlynedd union ers iddi ddod yn ofyniad cyfreithiol i arddangos sgôr hylendid.

Yn 2013, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i’w gwneud yn ofyniad cyfreithiol i arddangos sticeri sgoriau hylendid mewn mannau amlwg, fel drysau blaen a ffenestri busnesau bwyd.

Mae’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd wedi helpu i godi safonau hylendid busnesau bwyd ledled Cymru, gyda 96% o fusnesau bellach yn arddangos sgôr o 3 neu uwch.

Mae sicrhau bod sgoriau hylendid i’w gweld yn glir wedi helpu i rymuso defnyddwyr i wneud dewisiadau gwybodus ynghylch ble maen nhw’n prynu ac yn bwyta bwyd bob dydd, ond mae hefyd yn annog busnesau bwyd i wella’u safonau hylendid.

Mae timau awdurdodau lleol yn cynnal arolygiadau ac yn rhoi sgoriau i fusnesau bwyd, yn amrywio o 0-5.

Mae sgoriau hylendid da wedi bod yn fanteisiol i fusnesau hefyd, gan roi mantais gystadleuol i’r rhai sy’n dangos eu bod yn cymryd hylendid bwyd o ddifrif.

Mae ymchwil gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) hefyd wedi dangos bod safleoedd sydd â sgoriau uwch yn llai tebygol o gael llu o achosion o salwch trwy fwyd.

Codi safonau bwyd

Mae Lynne Neagle, Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant Cymru, wedi croesawu’r cyhoeddiad.

“Mae pawb yng Nghymru yn haeddu mwynhau eu bwyd, a theimlo’n gwbl hyderus ei fod wedi cael ei baratoi mewn modd sy’n sicrhau hylendid – mae ei gwneud hi’n orfodol i fusnesau arddangos sgoriau wedi cyflawni hynny,” meddai.

“Mae’n fuddiol i ddefnyddwyr, a hefyd i fusnesau.

“Rwy’n falch iawn hefyd o weld bod nifer y busnesau bwyd yng Nghymru sydd â sgôr o 5 yn uwch nag erioed.

“Rwy’n ddiolchgar am waith agos a chydweithredol awdurdodau lleol Cymru a’r Asiantaeth Safonau Bwyd, wrth helpu i weithredu’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd statudol dros y ddeng mlynedd ddiwethaf.

“Mae’r ymgysylltiad rheolaidd â busnesau bwyd wedi bod yn hanfodol i lwyddiant y cynllun ac wedi helpu i godi safonau bwyd i’r fath lefelau.”

‘Un o gyflawniadau mwyaf arwyddocaol yr unfed ganrif ar hugain’

Mae’r Athro Susan Jebb, cadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd, yn dathlu’r cyhoeddiad fel “un o gyflawniadau mwyaf arwyddocaol yr unfed ganrif ar hugain ym maes iechyd y cyhoedd”.

“Mae’r sticeri du a gwyrdd trawiadol sy’n cael eu harddangos mewn bwytai, caffis, archfarchnadoedd ac ar-lein, yn ffordd syml a thryloyw o roi sicrwydd i bobol bod bwyd yn cael ei baratoi a’i weini mewn ffordd lân a hylan, a bod y busnes yn bodloni ei ofynion deddfwriaethol ar gyfer hylendid bwyd,” meddai.

“Mae’r cynllun yn caniatáu i bobol bleidleisio gyda’u traed neu drwy glicio botwm a dewis y busnesau hynny sy’n cymryd hylendid bwyd o ddifrif.

“Rwy’n ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am eu hymrwymiad i wneud hwn yn ofyniad gorfodol sydd wedi bod yn hanfodol i lwyddiant y Cynllun.

“Edrychaf ymlaen at barhau â’n perthynas gydweithredol â Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i sicrhau bod pobol yng Nghymru yn dal i gael eu grymuso i wneud dewisiadau mwy gwybodus ynghylch ble maen nhw’n prynu ac yn bwyta bwyd bob dydd.”

‘Ffynhonnell ddi-ben-draw o wybodaeth’

Mae Richard Holt yn berchen ar fwyty Melin Llynon ym Môn, ac mae’n croesawu’r system sgôr hylendid.

“I mi, mae sgôr uchaf yn adlewyrchu holl ymdrechion fy nhîm a minnau i fodloni’r safonau diogelwch a hylendid bwyd uchaf posib,” meddai.

“Rwy’n falch iawn o’r 5 yn fy ffenestr.

“Dylai unrhyw un sy’n ystyried dechrau busnes bwyd gysylltu â’u Swyddog Iechyd yr Amgylchedd a manteisio ar y cyngor a’r gefnogaeth y gall eu cynnig.

“Mae fy Swyddog Iechyd yr Amgylchedd yn ffynhonnell ddi-ben-draw o wybodaeth ac mae’r gefnogaeth mae wedi’i rhoi i mi wedi bod yn hynod ddefnyddiol.”

Yn ôl y Cynghorydd Nicola Roberts, sydd â chyfrifoldeb dros Gynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Newid Hinsawdd ym Môn, mae’r sgôr hylendid “yn rhoi’r sicrwydd sydd ei angen ar bobol bod busnesau ar Ynys Môn yn cymryd hylendid a safonau bwyd o ddifrif”.

“Mae’r sticeri hyn yn ffordd syml a thryloyw o arddangos canlyniadau’r arolygiad hylendid a gynhaliwyd gan ein swyddogion,” meddai.

“Mae’r Cynllun yn rhoi hyder i ddefnyddwyr bod bwyd yn cael ei baratoi a’i weini mewn ffordd lân a hylan, a bod y busnes yn bodloni’r gofynion deddfwriaethol ar gyfer hylendid bwyd.”