Mae trigolion y gogledd yn cael eu hannog i ddweud faint maen nhw’n fodlon ei dalu am blismona.

Daw’r alwad gan Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu’r Gogledd, mewn ymgynghoriad fydd yn para tan Ionawr 7.

Daw dros hanner yr arian ar gyfer cyllid yr heddlu yn y gogledd o Lywodraeth y Deyrnas Unedig, a daw’r gweddill oddi wrth Dreth y Cyngor.

Mae’r swm mae pobol yn ei dalu yn eu treth gyngor yn dibynnu ar y praesept gaiff ei osod gan y Comisiynwyr Heddlu a Throsedd.

Bydd pobol yn gallu rhoi eu barn mewn holiadur ar-lein neu ar bapur.

Mae cwestiynau ar yr opsiynau am y swm sy’n cael ei wario ar blismona, ynghyd â pha flaenoriaethau mae pobol eisiau gweld Heddlu’r Gogledd yn canolbwyntio arnyn nhw.

Bydd trigolion hefyd yn gallu dweud sut maen nhw’n graddio plismona yn eu cymunedau eu hunain yn fwy cyffredinol.

Yn dilyn cau’r arolwg, bydd y canlyniadau’n cael eu hastudio, a bydd Andy Dunbobbin yn cynnig lefel y praesept i’r Panel Heddlu a Throsedd mewn cyfarfod ar Ionawr 29.

Bydd y swm sy’n cael ei dalu gan bobol yn newid ym mis Ebrill, ar ddechrau’r flwyddyn ariannol nesaf.

Arbedion

Ers 2010, fel rhan o’u hymroddiad i gynnig y gwerth gorau posibl i bobol yn y gogledd, mae Heddlu’r Gogledd eisoes wedi gwneud arbedion gwerth £42.799m.

Ond mae’n debygol bod angen cynnydd o £21.78 yn y dreth gyngor yn y praesept er mwyn creu cyllideb ddigyfnewid yn y flwyddyn nesaf, heb doriadau.

Fodd bynnag, mae Andy Dunbobbin yn ymwybodol o bwysau presennol ar gyllidebau cartrefi.

Drwy ei ymgynghoriad, mae’n awyddus i wybod pa lefel o ran cynnydd yn y dreth gyngor y byddai trigolion yn ei gefnogi.

“Fel gŵr a thad, ac fel rhywun sy’n dal i fyw yng nghalon y gymuned y gwnes i dyfu fyny ynddi, dw i’n gwybod fod diogelwch pobl yn hollbwysig,” meddai Andy Dunbobbin.

“Ond dw i hefyd yn gwybod faint o dan faint o bwysau mae teuluoedd a phobol heddiw.

“Rydyn ni i gyd yn dibynnu ac mi ddylen ni helpu ein gilydd, lle bynnag a phryd bynnag y gallwn ni.

“Ond mae diogelwch ein cymdogaethau ni’n dibynnu ar wasanaeth heddlu effeithiol sydd wedi’i ariannu’n dda.

“Lle bynnag dw i’n teithio yng ngogledd Cymru, o Ynys Môn i Wrecsam, Llanrwst, Pwllheli a’r Bermo, dw i’n gwybod faint mae pobol yn gwerthfawrogi gwaith Heddlu Gogledd Cymru a’u swyddogion a’u staff.

“Ond mae’r gwaith gwerthfawr hwn yn costio. Fy nyletswydd i ydy gweithio allan faint ddylai’r gost fod ar ran trigolion.

“Dyma pam dwi eisiau trigolion helpu ysbrydoli fy mhenderfyniad i.

“Buaswn i’n annog pobol gogledd Cymru i ymuno yn fy ymgynghoriad i a dweud wrthyf i am yr hyn maen nhw’n barod, ac yn gallu ei dalu er mwyn ariannu plismona yn ein cymuned ni.”

Gwasanaethau

Ynghyd ag ariannu’r gwasanaeth heddlu, mae’r arian sy’n cael ei godi drwy’r dreth gyngor hefyd yn galluogi’r Comisiynydd i ariannu gwasanaethau ar draws gogledd Cymru.

Mae’r Gwasanaethau a Gomisiynir hyn yn gwneud gwaith gwerthfawr o fewn ein cymuned i gynorthwyo dioddefwyr trosedd a chynorthwyo troseddwyr i leihau aildroseddu.

Enghreifftiau o’r gwasanaethau hyn ydy DASU, RASASC a Gorwel sy’n helpu dioddefwyr cam-drin domestig a thrais yn erbyn merched a genethod.

Enghraifft arall ydy Checkpoint Cymru, sy’n anelu ymdrin ag achosion sylfaenol ymddygiad troseddol fel iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau a rhoi dewis amgen credadwy i erlyniad.

Mae gan y Comisiynydd bedair prif ddyletswydd.

Maen nhw’n:

  • gosod blaenoriaethau plismona yng ngogledd Cymru drwy’r Cynllun Heddlu a Throsedd
  • penderfynu’r gyllideb ar gyfer Heddlu Gogledd Cymru, sy’n cynnwys gosod lefel argymelledig y braesept i’r Panel Heddlu a Throsedd ei chymeradwyo
  • gwrando ac ymateb i farn y cyhoedd ar blismona
  • dwyn y Prif Gwnstabl yn atebol am gyflawniad yr Heddlu.

Mae ymgynghoriad ac arolwg y Comisiynydd yn gwbl ddwyieithog yn Gymraeg a Saesneg (a Darllen Hawdd).

Mae copïau papur ar gael mewn llyfrgelloedd a gorsafoedd heddlu ledled gogledd Cymru.

Gall trigolion hefyd e-bostio neu ysgrifennu er mwyn gofyn am gael derbyn copi.

Bydd cynrychiolwyr o swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn bresennol hefyd mewn lleoliadau ar draws Gogledd Cymru drwy gydol cyfnod yr arolwg, yn sgwrsio hefo pobol yn y cnawd er mwyn cwblhau’r arolwg.