Mae 37 o unigolion yn y byd cyfathrebu a darlledu’n annog Llywodraeth Cymru i weithredu argymhelliad panel arbenigol i sefydlu Awdurdod Darlledu cysgodol.

Daw’r alwad mewn llythyr agored at Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau yn Llywodraeth Cymru, sydd wedi’i gyhoeddi heddiw (dydd Llun, Tachwedd 27).

Mae’r llythyr yn dadlau mai sefydlu’r corff fydai’r “cam unigol pwysicaf a mwyaf diriaethol” i wireddu polisi’r Llywodraeth o ddatganoli darlledu a chyfathrebu i Gymru.

Ymhlith y rhai sydd wedi llofnodi’r llythyr mae:

  • Yr Athro Emeritws Tom O’Malley, Prifysgol Aberystwyth
  • Julie Barton, cyn-olygydd Radio Wales
  • Sharon Morgan, yr actores
  • Madoc Roberts, golygydd teledu a chyn-swyddog yr undeb BECTU
  • Meic Birtwistle, cynhyrchydd annibynnol a chyn-swyddog yr NUJ

Ers mis Rhagfyr 2021, mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi datganoli pwerau darlledu a chyfathrebu i Gymru, fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llafur a Phlaid Cymru.

Ym mis Awst eleni, cafodd adroddiad gafodd ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru ei gyhoeddi.

Wedi’i gadeirio gan y darlledwr Mel Doel a’r Athro Elin Haf Gruffudd Jones, argymhellodd y panel y dylid sefydlu Awdurdod Cyfathrebu a Darlledu i Gymru o fewn y deuddeg mis nesaf.

Mae’r llythyr cyhoeddus yn annog gweinidogion i sefydlu’r Awdurdod cysgodol.

Dyma’r llythyr:

“Mae’r Panel Arbenigol a benodwyd gan Lywodraeth Cymru i ystyried y posibilrwydd o sefydlu Awdurdod o’r fath wedi gwneud achos manwl, yn seiliedig ar dystiolaeth. Roedd yn tynnu ar wybodaeth a dadansoddiadau gan ystod eang o randdeiliaid a chorff eang o ymchwil academaidd o ansawdd uchel. Rhaid canmol ansawdd a manylder y gwaith ac eglurder ac ymarferoldeb yr argymhellion pwyllog.

“… mae pryderon eang, sy’n cael eu crybwyll yn yr adroddiad, am effaith y newidiadau hyn ar newyddiaduraeth er budd y cyhoedd, rhaglenni am Gymru a darpariaeth Gymraeg, yn enwedig S4C.

“Mae cefnogaeth gref i ddatganoli yng Nghymru gan iddo ddod â llywodraethiant yn nes at bobl y wlad. Mae cyfathrebu’n hanfodol i gyflwr y drafodaeth gyhoeddus, i’n diwylliant ac i dwf cymuned amrywiol a llewyrchus. Bydd sefydlu Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu Cysgodol annibynnol i Gymru, yn dilyn y broses ofalus a phwyllog a argymhellir yn yr adroddiad, yn meithrin hyn ac yn gam arall gwerthfawr yn y broses ddatganoli barhaus.

“Sefydlu’r Awdurdod yw’r cam unigol pwysicaf a mwyaf diriaethol y gall eich llywodraeth ei gymryd i wireddu eich cred y ‘dylai pwerau darlledu a chyfathrebu gael eu datganoli i’r Senedd [yng Nghymru]’.

“Hyderwn y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu argymhelliad yr adroddiad i sefydlu’r Awdurdod cysgodol fel dull i ddod â pholisi cyfathrebu yn nes at y bobl yng Nghymru y mae’n effeithio ar eu bywydau, o ddydd i ddydd.”