Mae Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi’r celfyddydau.
Daw hyn ar ôl i nifer o sefydliadau golli arian yn ddiweddar, gan gynnwys Theatr Hafren, Cwmni Opera Canolbarth Cymru ac Impelo.
Cyngor Celfyddydau Cymru sy’n dyrannu’r arian, ond mae Jane Dodds yn galw am gefnogaeth dros dro gan y Llywodraeth er mwyn atal rhagor o niwed i’r celfyddydau.
‘Diwylliant cyfoethog’
“Fel cenedl, mae’n briodol ein bod ni’n ymfalchïo yn ein diwylliant cyfoethog, a rhan allweddol o hyn ydy ein cyflawniadau yn y celfyddydau,” meddai Jane Dodds.
“Mae cyflawniadau Cymru wedi ein rhoi ni ar y map fel gwlad sy’n gyfoethog o ran celf; fodd bynnag, rydym mewn perygl o golli’r enw da hwn.
“Mae sefydliadau ledled Cymru, megis Wyeside, wedi gweld eu harian yn cael ei dorri, tra bo eraill wedi colli eu harian nhw’n llwyr.
“Ond drwy ymestyn help llaw, gall Llywodraeth Cymru gymryd safiad rhagweithiol wrth sicrhau bod y celfyddydau’n gallu ffynnu yma yng Nghymru.
“Mae’n hanfodol ein bod ni’n diogelu dyfodol y celfyddydau yng Nghymru, nid dim ond ar gyfer rŵan, ond ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol hefyd.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
Yn ôl Lesley Griffiths, mae Llywodraeth Cymru’n ariannu’r celfyddydau drwy Gyngor Celfyddydau Cymru, sy’n gweithredu yn unol ag “egwyddor hyd brach”.
Dywed ei bod hi’n bwysig i sefydliadau sydd wedi colli arian gael y cyfle i apelio.