Mae lleisiau Cymraeg ac acenion Cymreig ar gael bellach ar gyfer plant a phobol ifanc sy’n dibynnu ar dechnoleg i gyfathrebu.

Cafodd y datblygiad ei gyhoeddi gan Julie Morgan, Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru.

Hyd yma, dim ond Cymhorthion Cyfathrebu Uwch-dechnoleg gydag acenion Seisnig ac Albanaidd oedd ar gael i blant a phobol ifanc yng Nghymru, yn ogystal â lleisiau Cymraeg ar gyfer oedolion.

Ond bydd cyllid Llywodraeth Cymru yn rhoi llais i blant a phobol ifanc sy’n cynrychioli eu hunaniaeth Gymreig ac sy’n swnio’n debycach i blant eraill yr un oedran.

Y lleisiau sydd ar gael

Mae cyfanswm o 16 o leisiau Cyfathrebu Estynedig ac Amgen (AAC) wedi cael eu datblygu.

Mae’r rhain yn cynnwys lleisiau ag acenion y gogledd a’r de, yn y Gymraeg a Saesneg, ar gyfer bechgyn a merched, a fersiynau cyfatebol ar gyfer pobol ifanc yn eu harddegau.

“Dylai plant a phobol ifanc sy’n defnyddio cyfarpar AAC uwch-dechnoleg yng Nghymru gael y gallu i swnio fel eu ffrindiau a’u cyfoedion,” meddai Julie Morgan.

“Er bod plant Cymru sy’n defnyddio cyfarpar AAC yn gallu gwneud hynny yn Gymraeg yn barod, dydyn nhw ddim yn gallu gwneud hyn drwy gyfrwng llais priodol ar gyfer eu hoedran.

“Rydw i wrth fy modd y bydd y lleisiau Cymraeg a’r acenion Cymreig newydd hyn yn helpu i roi mwy o opsiynau iddyn nhw, ac i roi ymdeimlad cryfach o hunaniaeth Gymreig iddyn nhw. Bydd hyn hefyd yn helpu i gefnogi eu lles meddyliol.”

‘Gwella hyder wrth fynegi eu hunain’

“Nod y prosiect yw cefnogi plant ag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu, gan gynnwys y rhai sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, drwy wella hyder dysgwyr wrth iddyn nhw fynegi eu hunain,” meddai Jeremy Miles, Gweinidog Addysg a’r Gymraeg yn Llywodraeth Cymru.

“Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd ac mae’n hanfodol bwysig bod ein holl blant a phobol ifanc yn gallu cyfathrebu yn yr iaith y maen nhw’n ei dewis.”

Mae’r datblygiad wedi’i groesawu gan arbenigwyr a defnyddwyr.

Dywed Dr Jeffrey Morris, Pennaeth y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Technoleg Gynorthwyol Electronig, fod y datblygiad “yn dileu rhwystr arall i gyfathrebu i blant yng Nghymru sy’n dibynnu ar uwch-dechnoleg i roi llais iddyn nhw”.

“Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru – hebddi, fyddai hi ddim wedi bod yn bosibl inni gyrraedd y garreg filltir bwysig hon,” meddai.

‘Darn coll o’r jig-so’

Mae Lina, merch Rebecca Meyrick, yn un o gleifion y ganolfan.

“Mae gwir angen y lleisiau hyn ar gyfer pobol ifanc a’u teuluoedd,” meddai ei mam.

“Bydd cael llais sy’n cyd-fynd â’u hunaniaeth Gymreig yn gwneud gwahaniaeth mawr.

“Hwn yw’r darn coll o’r jig-so.”