Mae bron i un ym mhob pump o bobol yng Nghymru ar restr aros y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, yn ôl yr ystadegau diweddaraf.
Mae’r ystadegau’n dangos bod 761,111 o lwybrau cleifion yn aros am driniaeth ym mis Medi, i fyny o 760,285 ym mis Awst.
Roedd 594,000 o gleifion unigol yn aros am driniaeth, y ffigwr uchaf erioed ar gofnod.
Yn ogystal, mae 26,439 yn aros dwy flynedd am driniaeth.
Awgryma’r Ceidwadwyr Cymreig y byddai’n cymryd tair blynedd a hanner i ddileu’r arosiadau dwy flynedd yng Nghymru.
Dywed Russell George, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, fod “ystadegau cywilyddus” y Gwasanaeth Iechyd Gwladol “yn gwbl annerbyniol”.
“Mae’r rhain yn bobol go iawn sy’n dihoeni ar y rhestrau hyn, yn aml mewn poen. Mae Cymru yn haeddu gwell,” meddai.
“Llafur yw’r unig lywodraeth erioed yn y Deyrnas Unedig sydd wedi torri cyllideb iechyd.”
“Dim ond y Ceidwadwyr Cymreig fydd yn cael gwared ar brosiectau gwagedd Llafur, yn gwrthdroi toriadau Llafur, yn gwario’r codiad llawn o 20% gan Lywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig ar ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru ac yn darparu cynllun gweithlu cywir.”
Gweithio gyda’r byrddau iechyd
Dywed llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod y pwysau ar wasanaethau iechyd wedi parhau i dyfu “wrth i ni gyrraedd amser anoddaf y flwyddyn”.
“Er gwaethaf y ffaith bod rhestrau aros wedi tyfu yn gyffredinol, mae’n galonogol gweld bod yr arosiadau hiraf yn parhau i ostwng,” meddai.
“Mae mwyafrif y bobol sy’n aros ar restr aros unigol (llwybr claf) yn aros llai na 26 wythnos.”
Dywed fod cynnydd hefyd yn nifer y bobol gafodd wybod nad oedd canser arnyn nhw, ond ei fod yn “destun pryder” fod cynifer yn methu’r dyddiad targed ar gyfer triniaeth.
“Er bod y cynnydd yng nghyfanswm y rhestrau aros y mis hwn yn fach iawn, mae’n siomedig eu gweld ar eu lefelau uchaf erioed,” meddai.
“Rydyn ni’n parhau i gynorthwyo byrddau iechyd i gyflawni’r targedau newydd ar gyfer lleihau’r arosiadau hiraf gafodd eu gosod gan y Gweinidog Iechyd, a hynny yng nghyd-destun pwysau cyllidebol eithafol.”