Ar Ddiwrnod Hawliau Gofalwyr heddiw (dydd Iau, Tachwedd 23), mae galw am fwy o gydraddoldeb i’r 370,000 o ofalwyr di-dâl yng Nghymru sy’n gofalu am aelod o’r teulu neu gyfaill.

Bob blwyddyn, mae sefydliadau gofal yn hyrwyddo hawliau gofalwyr drwy gydweithio â sefydliadau, elusennau ac unigolion, gan godi ymwybyddiaeth o ddyletswyddau gofal, helpu i adnabod gofalwyr, a’u cyfeirio nhw at wybodaeth, cyngor a chefnogaeth.

Ond mae angen mwy o weithredu gan lywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig, yn ôl Jake Smith o Gofalwyr Cymru.

“O ran Llywodraeth Cymru, rydym yn meddwl y dylen nhw greu cronfa trallod ariannol sylweddol newydd ar gyfer gofalwyr di-dâl,” meddai wrth golwg360.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi creu rhai grantiau mae gofalwyr wedi gallu eu hawlio, ond dydy’r swm sydd wedi’i fuddsoddi heb fod yn ddigon o ystyried nifer y gofalwyr di-dâl sydd yno.”

Dywed fod angen hefyd i Lywodraeth Cymru flaenoriaethu gofalwyr di-dâl fel grŵp blaenoriaeth pan fyddan nhw’n dyfeisio strategaethau neu fentrau gwrthdlodi yn y dyfodol.

“Gofalwyr di-dâl yw asgwrn cefn y system iechyd a gofal cymdeithasol,” meddai.

“Felly mae angen ei weld fel blaenoriaeth genedlaethol.”

Dywed fod Llywodraeth Cymru wedi cynnig taliad gwerth £500 i ofalwyr di-dâl oedd wedi derbyn lwfans gofalwyr y llynedd.

“Hoffem weld Llywodraeth Cymru yn cynnig y taliadau eto, ond yn ymestyn y meini prawf cymhwysedd fel y gall mwy o ofalwyr di-dâl gael mynediad atyn nhw,” meddai.

Datganiad yr Hydref yn “gyfle olaf”

Ar lefel Llywodraeth y Deyrnas Unedig, dywed Jake Smith fod angen adolygu’n llwyr y cymorth ariannol maen nhw’n ei ddarparu i ofalwyr di-dâl drwy’r system fudd-daliadau gan fod y meini prawf cymhwysedd yn “llawer rhy uchel”.

Mae Carers UK wedi datgan eu siom yn sgil y diffyg cymorth ychwanegol i ofalwyr oedd wedi ei gynnwys yn Natganiad yr Hydref ddydd Mercher (Tachwedd 22).

Ar hyn o bryd, mae 75% o ofalwyr di-dâl sy’n derbyn lwfans yn cael trafferth gyda phwysau costau byw, yn ôl y Prif Weithredwr Helen Walker.

“Er bod y Llywodraeth wedi cynyddu budd-daliadau yn unol â chyfradd chwyddiant uwch ac wedi cadw’r clo triphlyg, roedd dirfawr angen i ofalwyr weld cyfradd uwch o Lwfans Gofalwr a therfyn enillion,” meddai.

“Datganiad yr Hydref heddiw oedd un o gyfleoedd olaf y Llywodraeth i gyflawni ar gyfer gofalwyr sydd o dan bwysau ac angen cymorth ar frys.

“Rhaid gwneud y peth iawn ar gyfer gofalwyr a’r economi drwy flaenoriaethu buddsoddiad cynaliadwy, hirdymor mewn gofal cymdeithasol.”

Cymorth Llywodraeth Cymru

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod nhw’n anelu at wella’r cymorth sydd ar gael ar gyfer gofalwyr di-dâl, a’u bod nhw wedi cyflwyno’r cynllun seibiant byr.

Ers y llynedd, maen nhw wedi buddsoddi £6m yn y cynllun, fydd yn galluogi 30,000 o ofalwyr i gael seibiant.

“Mae gofalwyr di-dâl yn chwarae rôl hanfodol drwy ofalu am aelodau o’u teuluoedd, cymdogion, ac eraill yn ein cymunedau sydd ag angen gofal a chefnogaeth ychwanegol,” meddai Liz Wallis, Arweinydd Rhaglen Seibiant Byr Cymru.

“Maen nhw wedi ymroi i gefnogi’r rheini maen nhw’n eu caru drwy ofalu amdanyn nhw, a rhaid sicrhau eu bod nhw yn eu tro yn gallu cael y cymorth angenrheidiol ar yr amser iawn.”

Dywed Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, fod gofalwyr di-dâl yn chwarae “rôl amhrisiadwy” yn ein cymdeithas.

“Maen nhw wedi ymroi i gefnogi’r rheini y maen nhw’n eu caru drwy ofalu amdanynt, a rhaid sicrhau eu bod nhw yn eu tro yn gallu cael y cymorth angenrheidiol, ar yr amser iawn,” meddai.

Ychwanega fod y Gronfa Gymorth i Ofalwyr ar gyfer 2022-2024 wedi galluogi 24,000 o ofalwyr di-dâl sydd ar incwm isel i brynu nwyddau sylfaenol neu dderbyn cyngor hanfodol.