Mae enw Geert Wilders, sydd wedi ennill etholiad cyffredinol yr Iseldiroedd, yn “swnio fel catâr”, yn ôl cyflwynydd y rhaglen Today ar BBC Radio 4.

Roedd y rhaglen yn trafod buddugoliaeth y gwleidydd asgell dde yn etholiad cyffredinol yr Iseldiroedd, ac roedd trafodaeth ynghylch sut i ynganu ei enw.

Roedd Anna Holligan a Nick Holligan yn cywiro’i gilydd, cyn i Robinson ychwanegu sylw pellach am sut mae’r enw’n swnio.

Mae catâr yn golygu “gormod o lysnafedd yn y trwyn neu’r llwnc”.

Yn ystod yr adroddiad ddilynodd, aeth y ddau yn eu blaenau wedyn i ynganu’r enw’n anghywir droeon.

Mae’r ‘G’ yn yr Iseldireg yn cael ei hynganu’n debyg i ‘ch’ yn Gymraeg, ac nid fel cytsain caled.

Yr etholiad

Cipiodd Geert Wilders, sy’n wleidydd ers dros chwarter canrif, fuddugoliaeth ysgubol yn yr etholiad cyffredinol.

Yn ôl rhagolygon, roedd disgwyl i’w Blaid Ryddid (PVV) ennill 37 o seddi ond byddai hynny’n golygu ceisio ffurfio clymblaid er mwyn cael llywodraethu.

Er mwyn ennill mwyafrif, bydd angen 76 o seddi ar ei blaid yn y senedd 150 sedd.

Ymhlith polisïau ei blaid mae lleihau nifer y mewnfudwyr yn yr Iseldiroedd, cau ffiniau, a gwahardd y Quran, sef prif lyfr crefyddol Islam – er ei fod yn barod i ohirio’r olaf ohonyn nhw am y tro er mwyn ennill mwy o bleidleisiau.

Mae tair prif blaid arall yr Iseldiroedd wedi gwrthod cydweithio â’i blaid oherwydd eu polisïau asgell dde eithafol.

Clymblaid asgell chwith ddaeth yn ail yn yr etholiad, gan ennill dim ond 25 o seddi yn ôl rhagolygon sy’n seiliedig ar 94% o’r holl bleidleisiau gafodd eu bwrw.

Mae pleidiau asgell dde yng ngwledydd eraill Ewrop, gan gynnwys Ffrainc, wedi croesawu’r canlyniad fel “ffordd o amddiffyn hunaniaethau cenedlaethol”.

Un o bolisïau eraill Wilders a’i blaid yw cynnal refferendwm gyda’r bwriad o adael yr Undeb Ewropeaidd, sy’n cael ei alw’n ‘Nexit’ yn yr Iseldiroedd, gan adleisio Brexit yn y Deyrnas Unedig.

Ond am y tro, mae’n dweud ei fod e’n barod i “roi yn yr oergell” bolisïau eraill megis gwaharddiad ar bob mosg ac ysgol Islamaidd yn y wlad.