Mae cynghorydd yn Sir Gaerfyrddin yn dweud bod adfywio canol tref Llanelli’n “bwysig, oherwydd mae cymaint o siopau gwag” yno.

Daw hyn ar ôl i Gyngor Sir Caerfyrddin gael cadarnhad ddechrau’r wythnos hon fod eu cais am gyllid o Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi bod yn llwyddiannus, er bod y cais gwreiddiol ddiwedd y llynedd wedi bod yn aflwyddiannus.

Mae’r cyllid i ddod â hen siop Woolworths yng nghanol y dref yn ôl i ddefnydd parhaol a chynhyrchiol wedi’i gymeradwyo’n amodol yn ystod y drydedd rownd.

Roedd cynnig gwreiddiol Cyngor Sir Caerfyrddin am gyllid yn seiliedig ar gynlluniau i adfywio hen siop Woolworths yn Llanelli fel cyfleuster newydd sy’n cynnig gofod cydweithio hyblyg a swyddfeydd, cymorth busnes a chanolfan yng nghanol y dref i randdeiliaid.

Y bwriad yw cynyddu nifer yr ymwelwyr a bywiogrwydd i gefnogi economi canol y dref.

Roedd y cais am gyllid hefyd yn ceisio darparu gwelliannau o ansawdd i’r amgylchfyd cyhoeddus yn y Sgwâr Canolog, Gerddi’r Ffynnon a Stryd Cowell.

Mae Cronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cymeradwyo’n amodol gyllid o £15,547,105 ar gyfer y prosiectau hyn, i’w cyflawni erbyn mis Mawrth 2026.

Ar gyfer y prosiect penodol yng nghais y Cyngor y llynedd mae’r dyfarniad amodol o gyllid, a does dim modd defnyddio’r arian i gefnogi gweithgaredd sy’n sylweddol wahanol i’r cais.

Fodd bynnag, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cydnabod y gall fod angen gwneud addasiadau i’r prosiect oherwydd pwysau chwyddiant.

Bywiogrwydd a’r economi

Mae’r Cynghorydd Hazel Evans yn teimlo y bydd y penderfyniad i gymeradwyo’r cais yn dda i economi a bywiogrwydd y dref.

“Rydym yn croesawu penderfyniad y Gronfa Ffyniant Bro i gymeradwyo ein cais am gyllid ar gyfer canol tref Llanelli ac edrychwn ymlaen at ystyried y cynnig unwaith eto gyda swyddogion a rhanddeiliaid Llywodraeth y Deyrnas Unedig ac archwilio’r cyfleoedd posibl i ddatblygu bywiogrwydd canol y dref a’i llesiant economaidd ymhellach,” meddai wrth golwg360.

“Mae bywiogi canol tref Llanelli yn bwysig, oherwydd mae cymaint o siopau gwag yno.

“Mae eisiau ailfywiogi canol y dref.

“Wrth gael arian fel hyn, mae am wneud gwahaniaeth wrth ddenu pobol mewn i’r dref.

“Beth sydd ar gael sy’n denu pobol mewn i’r dref? Ar hyn o bryd mae gymaint o siopau gwag yna.

“Mae e’n wael.

“Y gobaith yw, wrth symud swyddi i mewn yno, y byddai’n denu mwy o siopau i ddweud, ‘Waw! Mae mwy o bobol yng nghanol y dref’.

“Mae bywiogi’r economi yn creu swyddi.

“Mae e’n cadw y busnesau i fynd.”

Woolworths yng nghanol y dref

Yn ôl Hazel Evans, bydd cael Woolworths yng nghanol y dref yn dod â swyddi, ac yn gwneud canol tref Llanelli yn fwy llewyrchus.

“Bydd cael swyddi yn Woolworths yn cael llawer o bobol mewn i ganol y dref,” meddai wedyn.

“Bydd hwnna yn helpu siopau, a gobeithio i greu siopau newydd lle bydd swyddi yn dod gyda fe.

“Mae e’n bwysig bo ni’n canolbwyntio ar ganol Llanelli, oherwydd mae [canolfan siopa] Trostre wedi cael effaith ar ganol y dref.

“Rydym eisiau sicrhau bo ni’n buddsoddi yng nghanol tref Llanelli er mwyn llewyrch yr ardal i gyd.”