Mae Liz Saville Roberts a Mabon ap Gwynfor yn galw am adfer signal ffonau symudol mewn rhannau o etholaeth Dwyfor-Meirionnydd.

Daw’r alwad ar ran trigolion Cricieth, Pentrefelin, Llanystumdwy a phentrefi cyfagos sydd heb signal symudol a WiFi ers dros wythnos, ond mae rhai wedi bod yn adrodd bod eu signal wedi gwaethygu dros gyfnod o fisoedd.

Mae Aelod Seneddol ac Aelod Senedd yr etholaeth wedi clywed bod gwaith ar y gweill yn yr ardal sy’n achosi diffyg signal ar gyfer cwsmeriaid O2, Vodafone, EE, Tesco Mobile, Sky, Virgin Media, Three, Giffgaff a BT.

Roedd trigolion Cricieth heb signal symudol a WiFi am saith diwrnod fis Tachwedd y llynedd, ar ôl i stormydd darfu ar y rhwydwaith, gan darfu ar fywydau unigolion a busnesau lleol.

‘Esgeuluso pobol’

Yn ôl Liz Saville Roberts a Mabon ap Gwynfro, mae trigolion a busnesau Cricieth yn cael eu hesgeuluso dro ar ôl tro yn sgil problemau rhwydwaith, ac am nad yw gweithredwyr wedi gallu dod o hyd i ateb i broblemau cysylltedd.

“Mae ychydig dros flwyddyn ers i gwmseriaid ffonau symudol yn ardal Cricieth gael eu gadael yn methu gwneud neu dderbyn galwadau am bron i saith wythnos, yn dilyn diffoddiad sylweddol gafodd ei hachosi gan storm,” meddai’r ddau wleidydd mewn datganiad ar y cyd.

“Pan ddaru ni godi hyn efo’r darparwyr rhwydwaith a gweithredwr y mast, cawson ni sicrwydd fod y broblem wedi’i datrys ac y byddai’r gwasanaeth yn cael ei adfer.

“Ond dyma ni unwaith eto efo pobol leol yn adrodd am broblemau cysylltedd a gwasanaeth ysbeidiol, efo’r rhan fwyaf o ddarparwyr rhwydwaith yn yr ardal wedi’u heffeithio.

“Mae’r tarfu parhaus yma’n cael effaith ar bobol a busnesau lleol ill dau.

“Os ydy pobol yn ceisio rhedeg busnes mewn ardal wledig, mae cael signal sy’n ddibynadwy’n rywbeth sydd wedi dod yn gynyddol bwysig.

“Mae busnesau ac unigolion lleol eisiau ac yn haeddu gwell lefel o wasanaeth, a chytundeb gwell gan eu darparwr symudol.

“Nid anghyfleustra yn unig ydy hyn – mae’n rhwystr niweidiol iawn i fusnes.

“Mae darparwyr rhwydwaith yn ddigon bodlon derbyn arian gan bobol, ond eto mae’n ymddangos eu bod nhw’n amharod i gwblhau eu rhwymedigaethau cytundebol i ddarparu gwasanaeth dibynadwy i gwsmeriaid ac i drwsio problemau’n amserol pan fyddan nhw’n codi.

“Rydym yn galw ar bob darparwr rhwydwaith i gydweithio i gau pen y mwdwl ar y mater yma, i adfer gwasanaethau i gymunedau lleol, ac i ad-dalu cwsmeriaid ffyddlon am darfu parhaus.”