Bydd cynnydd cyfartalog blynyddol o £94 mewn biliau ynni o fis Ionawr, yn ôl y rheoleiddiwr ynni Ofgem.
Mae hyn o ganlyniad i’r ffaith fod y cap ar gyfer aelwydydd yn cael ei godi o ryw £1,834 y flwyddyn i oddeutu £1,928 y flwyddyn ar gyfartaledd.
Y cap yw’r pris uchaf y gall darparwyr ei godi ar aelwydydd yng Nghymru, Lloegr a’r Alban am bob uned o egni.
Dywed Jonathan Brearley, Prif Weithredwr Ofgem, fod y sefyllfa’n “peri pryder”.
Fodd bynnag, eglura fod y cynnydd mewn prisiau’n ganlyniad i’r cynnydd yng nghost cyfanwerthu nwy a thrydan.
Amrywiaeth o dariffau
Mae Jonathan Brearely yn annog cwsmeriaid i ystyried eu hopsiynau’n llawn cyn ymrwymo i unrhyw ddarparwr ynni.
“Mae’n bwysig bod cwsmeriaid yn cael eu cefnogi, ac rydym wedi gwneud yn glir i gyflenwyr ein bod ni’n disgwyl iddyn nhw nodi a chynnig cymorth i’r rhai sy’n cael trafferth gyda biliau,” meddai.
“Rydym hefyd yn gweld dewis yn dychwelyd i’r farchnad, sy’n arwydd cadarnhaol, a gallai cwsmeriaid elwa o siopa o gwmpas, gydag amrywiaeth o dariffau ar gael nawr sy’n cynnig sicrwydd cyfradd sefydlog neu fargen fwy hyblyg sydd islaw pris y cap.”
Dywed fod angen i bobol “bwyso a mesur yr holl wybodaeth” sydd ar gael a cheisio cyngor annibynnol gan amryw o ffynonellau pan ddaw i ddewis eu tariff.
Dywed fod angen hefyd i bobol ystyried ai’r pris isaf neu sicrhau bargen sefydlog yw’r peth pwysicaf iddyn nhw wrth ddewis eu darparwr ynni.