Mae cynnig i adeiladu maes parcio ym mynwent capel yn Abertawe, a gosod glaswellt mewn rhannau eraill ohoni, wedi cythruddo anwyliaid pobol sydd wedi’u claddu yno.
Mae perchnogion hen gapel Adulam ym Mon-y-maen wedi cyflwyno ymholiad cyn cais i Gyngor Abertawe i droi’r adeilad yn naw fflat a darparu deuddeg o lefydd i barcio.
Mae cynllun y safle’n dangos maes parcio ar ochr chwith y capel wrth edrych allan o Heol Cefn, a darnau newydd o laswellt yn y blaen a’r cefn.
Mae’r ardaloedd hyn yn llawn beddi.
Mae hefyd yn dangos gasebo “treftadaeth a golygfa” ger y maes parcio wrth edrych tua Bae Abertawe, a pherthi newydd yn gwahanu’r lawnt yng nghefn y capel oddi wrth weddill y fynwent tu hwnt.
Mae’r cynllun gosodiad yn dweud y byddai’r cerrig beddi’n cael eu gosod yn erbyn waliau, ac y byddai cynigion tirwedd ar gyfer y fynwent yn cael eu harchwilio a’u cytuno â’r Cyngor.
Byddai’r holl gerrig beddi’n cael eu cofnodi a lluniau’n cael eu tynnu cyn gwneud unrhyw waith.
Prinder tai a diffyg ymgynghoriad
Dywed Bill Sandhu, un o ddau berchennog newydd y capel, y byddai’r fflatiau’n helpu i fynd i’r afael â’r prinder tai.
Dywed y bu adborth positif gan bobol sy’n byw gerllaw.
Ond wnaeth neb oedd wedi siarad â’r Gwasanaeth Gohebu ar Ddemocratiaeth Leol ddweud bod rhywun wedi ymgynghori â nhw.
“Mae aelodau fy nheulu wedi’u claddu yn y tir, ac alla i ddim hyd yn oed dechrau egluro sut dw i’n teimlo bod concrid am gael ei roi dros eu beddi nhw ar gyfer maes parcio,” meddai Carl Thomas, un o drigolion Heol Cefn.
“Mae ystlumod yn yr adeilad, ac roeddwn i’n meddwl eu bod nhw’n rywogaeth sy’n cael ei gwarchod.
“Fe fu llawer noson pan dw i wedi eistedd yn y cefn yn eu gwylio nhw’n dod allan o’r adeilad.”
Dywed y morwr Gavin John, gafodd ei fagu drws nesaf i’r capel, fod pobol yn deall y byddai angen canfod defnydd newydd i’r adeilad gwag.
Ond yr hyn oedd wedi “corddi” pobol, meddai, oedd effaith y cynigion ar gyfer yr ardd a’r maes parcio ar y beddi.
“Fe wnaeth rywun anfon neges destun ata i’n dweud, ‘Wnei di fyth gredu beth maen nhw’n mynd i’w wneud gyda’r Adulam’,” meddai.
“Mae pobol yn gandryll amdano fe.”
Pobol sydd wedi’u claddu yn y fynwent
Cafodd angladd ei dad ei gynnal yn y capel yn 2016, ac mae ei fam yn dal i fyw drws nesaf.
“Yn ystod y rhyfel, roedd gan fy mam-gu ferch fu farw’n fabi,” meddai.
“Mae hi wedi’i chladdu yno.”
Yn ôl Gavin John, cafodd cyn-filwr o’r Ail Ryfel Byd gymerodd ran mewn teithio ar yr Iwerydd ac i’r Arctig ei gladdu yno, ynghyd â milwr o’r Rhyfel Byd Cyntaf, a thair chwaer oedd wedi boddi yn y môr ger Llansawel yn 1912.
Dywed Richard Christensen, sy’n byw gyferbyn â’r capel, fod ganddo fe gefnder gafodd ei gladdu yno.
Mae aelodau ei deulu’n ymweld â’i fedd yn aml, meddai.
“Allwch chi ddim rhoi tarmac dros gorff rhywun.
“Mae’n ‘Na’ enfawr.”
Mae e hefyd yn poeni y byddai pobol yn byw yn y fflatiau yn edrych dros ei ardd.
Dywed Paul Lloyd, cynghorydd Bon-y-maen, ei fod e wedi cyfri 14 o bobol mewn cymhorthfa gynhaliodd e a’i gyd-gynghorydd Mandy Evans ddechrau’r wythnos hon sydd wedi mynegi pryderon am y cynlluniau.
“Rydyn ni’n rhannu eu safbwyntiau nhw,” meddai.
Dywed fod deisebau papur ac ar-lein yn gwrthwynebu’r cynnig wedi’u sefydlu.
‘Dydyn ni ddim eisiau ypsetio neb’
Cafodd y capel ei adeiladu tua 1850 a’i adnewyddu ddechrau’r 1960au, cyn cau fis Gorffennaf y llynedd, er bod mynediad o hyd i’r fynwent.
Cafodd ei werthu wedyn am £27,500 gyda llyfryn y gwerthiant yn nodi y byddai angen i’r prynwr gynnal y fynwent a galluogi pobol i gael eu claddu yno yn y dyfodol heb gost.
Dywed Bill Sandhu o Gydweli ei fod e wedi’i gynghori bod ailddatblygiad capel tebyg wedi digwydd yn rhywle arall, nad yw mynwent capel yn dir cysegredig, a bod y claddedigaeth ddiweddaraf yng Nghapel Adulam wedi’i chynnal nifer o flynyddoedd yn ôl.
Dywed mai’r bwriad yw trosglwyddo safle’r capel i ddarparwr tai cymdeithasol, ac y byddai safbwyntiau pobol yn cael eu hystyried.
Bydd swyddogion cynllunio’r Cyngor yn rhoi sylwadau ar yr ymholiad cyn cais, ond na fydd unrhyw waith yn cael ei wneud cyn i gais cynllunio llawn gael ei gyflwyno a’i gymeradwyo gan yr awdurdod.
“Dydyn ni ddim eisiau ypsetio neb,” meddai Bill Sandhu pan glywodd am y dicter roedd y cais wedi’i achosi i rai pobol.
“Mae’n ofod mawr allai gael ei ddefnyddio’n well, ac rydyn ni’n gwybod fod yna alw am dai.”